Mae fforwm wedi cael ei gynnal yn Sir Gaerfyrddin i gynyddu ymwybyddiaeth o'r gwasanaethau sy'n helpu pobl agored i niwed i gadw eu hannibyniaeth yn eu hunain.
Peter Llewellyn, Pennaeth Comisiynu Integredig, yn siarad yn y digwyddiad.
Cynhaliwyd y fforwm gan raglen Cefnogi Pobl sy'n cael ei chyllido gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a'i harwain yn lleol gan Gyngor Sir Caerfyrddin.
Cafodd ei gynnal ym Mharc y Scarlets, Llanelli ddydd Mawrth, 7fed Gorffennaf, a hwn oedd y pumed fforwm o'i fath.
Roedd y siaradwyr yn cynnwys y Cyng. Hugh Evans, Hyrwyddwr Cefnogi Pobl y Cyngor; Ruth Evans, Pen Swyddog Cefnogi Pobl; Peter Llewellyn, Pennaeth Partneriaethau a Chomisiynu Integredig; Phil Tipton, Swyddog Datblygu Cefnogi Pobl Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful; a Sharon Court, Rheolwr Gwasanaethau Trothwy Cyf a Chadeirydd Fforwm Darparwyr Cefnogi Pobl.
Nod y fforwm oedd codi proffil rhaglen Cefnogi Pobl a'r gwasanaethau y mae'n eu cyllido.
Hefyd, roedd yn gyfle i bobl leisio eu barn am fylchau yn y gwasanaethau a thrafod blaenoriaethau ar gyfer darparu a datblygu'r gwasanaethau yn y dyfodol.
Yn ogystal, bu'r cynrychiolwyr yn trafod y posibilrwydd o roi system gyfeirio ganolog ar waith yn Sir Gaerfyrddin a bydd yr adborth a gafwyd yn cael ei roi i Grŵp Cynllunio Cefnogi Pobl sy'n cael ei gadeirio gan Bruce McLernon (Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai).
Roedd bron i 100 o bobl yn bresennol yn y digwyddiad, gan gynnwys uwch swyddogion o amrywiaeth eang o wasanaethau statudol, cynrychiolwyr cyrff darparu Cefnogi Pobl, a defnyddwyr gwasanaethau o amrywiol brosiectau cymorth sy'n gysylltiedig â thai ledled Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd Ruth Evans, Pen Swyddog Cefnogi Pobl Sir Gaerfyrddin: “Roedd yn gyfle ardderchog i glywed barn pawb ac i bobl sy'n gweithio ac yn byw mewn tai â chymorth ddod i adnabod ei gilydd yn well.”
Ychwanegodd y Cyng. Evans, Hyrwyddwr Cefnogi Pobl: “Roeddwn yn falch bod cynifer o bobl, gan gynnwys darparwyr Cefnogi Pobl a defnyddwyr gwasanaethau, wedi dod i'r digwyddiad. Mae nifer y bobl a oedd yn dymuno bod yn bresennol yn dangos pwysigrwydd rhaglen Cefnogi Pobl.
“Roedd yn ddigwyddiad llwyddiannus iawn ac yn cynnig llawer o wybodaeth am sut y gallwn ni gydweithio i helpu pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain."
I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai yn Sir Gaerfyrddin, edrychwch ar yr adran Cefnogi Pobl ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin sef www.sirgar.gov.uk
Fel arall, anfonwch e-bost at cefnogipobl@sirgar.gov.uk, neu ffoniwch 01267 228680 neu 228716.