Cynllun Gweithredol Cefnogi Pobl
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 20/8/2012
Cynllun Gweithredol Cefnogi Pobl 

Y Cynllun Gweithredol Cefnogi Pobl 
Mae'n ofyniad statudol i Gyngor Sir Caerfyrddin lunio Cynllun Gweithredol Cefnogi Pobl bob blwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd manwl ynghylch cynnwys a fformat y cynllun. Dylai'r Cynllun Gweithredol Cefnogi Pobl gynnwys canlyniadau'r Ymarfer Mapio Anghenion, adolygiadau strategol, a cheisiadau am gyllid Cefnogi Pobl sydd â blaenoriaeth. Mae'r cynllun yn gweithredu fel dogfen gais am gyllid ychwanegol fel y gellir cyflwyno gwasanaethau newydd i ateb anghenion yn y dyfodol neu i ariannu'r gwaith o ailfodelu'r gwasanaethau sy'n bod eisoes er mwyn gallu ymdopi ag anghenion sy'n newid.

Mae Cynllun Gweithredol Cefnogi Pobl 2012/13 yn hoelio sylw ar ganlyniadau Ymarfer Mapio Anghenion 2010/11, ar ymchwil ychwanegol o ran y gwahanol grwpiau cleientiaid, ac ar ymgynghori o'r newydd â darparwyr a defnyddwyr gwasanaeth. Mae'r blaenoriaethau strategol ar gyfer 2012/13 yn cael eu cadarnhau yn y Crynodeb Gweithredol, a rhoddir rhagor o fanylion yn yr elfennau unigol sy'n rhoi sylw i wahanol grwpiau cleientiaid Cefnogi Pobl.