Cyfeirlyfr Gwasanaethau Cymorth Cysylltiedig â Thai
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 25/2/2013
Cyfeirlyfr Gwasanaethau Cymorth Cysylltiedig â Thai 

I bwy mae’r Cyfeiriadur hwn?
Mae’r cyfeiriadur hwn i unrhyw un sydd angen cyngor neu wybodaeth am wasanaethau cymorth cysylltiedig â thai yn Sir Gaerfyrddin. Mae hyn yn cynnwys staff asiantaethau neu sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl sydd angen cael gwasanaeth cymorth, neu bobl sydd angen cael gwasanaeth iddyn nhw eu hunain neu i rywun maen nhw’n ei adnabod.

Beth sydd yn y Cyfeiriadur hwn?
Mae’r cyfeiriadur hwn yn rhoi gwybodaeth am ba wasanaethau cymorth cysylltiedig â thai sy’n bod yn Sir Gaerfyrddin, pa wasanaethau maen nhw’n eu darparu, i bwy maen nhw, lle maen nhw a sut y gellir eu cael.

Mae gan bob gwasanaeth unigol ei dudalen ei hun lle gellir cael y wybodaeth hon. Mae’r manylion mewn rhannau yn ôl y math o wasanaeth, ac yna ceir y darparwyr gwasanaethau yn nhrefn y wyddor. Mae mynegai unigol i bob rhan.

Rhan A
Llety y gellir ei gael yn uniongyrchol a llety brys – y gellir ei gael 24 awr y dydd.

Rhan B
Cymorth hyblyg – lle darperir y cymorth yng nghartref y defnyddiwr gwasanaeth unigol.

Rhan C
Tai â chymorth dros dro – lle darperir llety dros dro gyda’r cymorth.

Rhan CH
Tai â chymorth parhaol – lle darperir y llety’n barhaol gyda’r cymorth.

Rhan D
Gwasanaethau i bobl hŷn – gan gynnwys llety lloches, gofal ychwanegol, larymau cymdeithasol, a lle y gellir galw am help pan fo ei angen.

Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am y gwasanaethau unigol, cysylltwch â’r sefydliad sy’n darparu’r gwasanaeth y mae gennych chi ddiddordeb ynddo.

 
Manylion Cysyllt
 

Os hoffech chi gopi o’r Cyfeiriadur hwn neu am unhryw wybodaeth am y rhaglen Cefnogi Pobl cysylltwch 01554 899322 neu ebostiwch: cefnogipobl@sirgar.gov.uk