I bwy mae’r Cyfeiriadur hwn?
Mae’r cyfeiriadur hwn i unrhyw un sydd angen cyngor neu wybodaeth am wasanaethau cymorth cysylltiedig â thai yn Sir Gaerfyrddin. Mae hyn yn cynnwys staff asiantaethau neu sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl sydd angen cael gwasanaeth cymorth, neu bobl sydd angen cael gwasanaeth iddyn nhw eu hunain neu i rywun maen nhw’n ei adnabod.
Beth sydd yn y Cyfeiriadur hwn?
Mae’r cyfeiriadur hwn yn rhoi gwybodaeth am ba wasanaethau cymorth cysylltiedig â thai sy’n bod yn Sir Gaerfyrddin, pa wasanaethau maen nhw’n eu darparu, i bwy maen nhw, lle maen nhw a sut y gellir eu cael.
Cyfeirlyfr Gwasanaethau Cymorth Cysylltiedig â Thai.pdf
Mae gan bob gwasanaeth unigol ei dudalen ei hun lle gellir cael y wybodaeth hon. Mae’r manylion mewn rhannau yn ôl y math o wasanaeth, ac yna ceir y darparwyr gwasanaethau yn nhrefn y wyddor. Mae mynegai unigol i bob rhan.
Rhan A
Llety y gellir ei gael yn uniongyrchol a llety brys – y gellir ei gael 24 awr y dydd.
Rhan A.pdf
Rhan B
Cymorth hyblyg – lle darperir y cymorth yng nghartref y defnyddiwr gwasanaeth unigol.
Rhan B.pdf
Rhan C
Tai â chymorth dros dro – lle darperir llety dros dro gyda’r cymorth.
Rhan C.pdf
Rhan CH
Tai â chymorth parhaol – lle darperir y llety’n barhaol gyda’r cymorth.
Rhan CH.pdf
Rhan D
Gwasanaethau i bobl hŷn – gan gynnwys llety lloches, gofal ychwanegol, larymau cymdeithasol, a lle y gellir galw am help pan fo ei angen.
Rhan D.pdf
Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am y gwasanaethau unigol, cysylltwch â’r sefydliad sy’n darparu’r gwasanaeth y mae gennych chi ddiddordeb ynddo.
Os hoffech chi gopi o’r Cyfeiriadur hwn neu am unhryw wybodaeth am y rhaglen Cefnogi Pobl cysylltwch 01267 – 228680 / 228716 neu ebostiwch: supportingpeople@sirgar.gov.uk