Y Groes Coch Brydeinig
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Y Groes Coch Brydeinig 


Red Cross Logo

Cymorth Hyblyg i Bobl Hŷn

Grŵp C/O PAI
¾ Heol Rhosyn
Parc Dafen
Dafen
Llanelli
Sir Gaerfyrddin
SA14 8QG
Dros y ffôn: 01554 757086
Dros y ffacs: 01554 757086
Trwy e-bost: : BRCSSP-Llanelli@redcross.org.uk


Trwy’r wefan:
http://www.redcross.org.uk/


I bwy mae’r gwasanaeth
Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl hŷn sydd naill ai wedi bod yn yr ysbyty neu y mae angen cefnogaeth arnynt i'w galluogi i aros gartref.

Y gwasanaeth a ddarperir
Gwasanaeth cymorth ‘hyblyg’ yw hwn, sy’n darparu cymorth i bobl yn eu cartrefi eu hunain.  Mae’r lefel a’r fath o gefnogaeth yn dibynnu ar anghenion y defnyddiwr gwasanaeth.

Lleoliad
Dyffry Tywi a Rhydaman

Math o lety
Gellir darparu’r gwasanaeth i bobl sy’n berchen ar eu cartrefi eu hunain neu sy’n byw mewn llety rhent. 


Pryd mae’r gwasanaeth ar gael
Darperir y cymorth yn ystod oriau swyddfa arferol, gyda rhywfaint o hyblygrwydd er mwyn diwallu anghenion y defnyddiwr gwasanaeth. Mae gwasanaeth ar-alwad tu allan i oriau ar gael ar gyfer argyfyngau sy’n codi tu allan i oriau swyddfa arferol. Mae pob defnyddiwr gwasanaeth yn cael hyd at bedair awr o gymorth bob wythnos.

Am faint ellir defnyddio’r gwasanaeth
Gall pobl ddefnyddio’r gwasanaeth hwn am hyd at ddwy flynedd.

Sut i’w gael
Gall gwasanaethau cyngor a darparwyr gwasanaethau gwirfoddol a phreifat wneud atgyfeiriadau gan gynnwys Gweithwyr Cymdeithasol ac Arbenigwyr Gofal Iechyd.
Gall pobl sydd eisiau defnyddio’r gwasanaeth hefyd atgyfeirio eu hunain, ond bydd angen i ddarparwr y gwasanaeth ymgynghori â gweithwyr proffesiynol eraill sy’n ymwneud â darparu gwasanaeth i’r defnyddiwr gwasanaeth posibl. Bydd darparwr y gwasanaeth hefyd yn asesu anghenion y defnyddiwr gwasanaeth cyn y gellir derbyn yr unigolyn hwnnw ar y cynllun.

Cost
Ni fydd angen i’r defnyddiwr gwasanaeth dalu am y cymorth a gaiff. Ariennir y gwasanaeth hwn trwy’r Grant Cefnogi Pobl a delir yn uniongyrchol i ddarparwr y gwasanaeth gan Sir Gar Gaerfyrddin. 
 

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 24/2/2010