Bydd plismyn bro a swyddogion cyswllt ysgolion, ynghyd â phersonél o'r gwasanaeth tân, yn ymweld ag ysgolion y sir i atgoffa disgyblion i ymddwyn yn gyfrifol ac i roi cyngor ar beryglon coelcerthi a thân gwyllt.
Mae rhieni'n cael eu hannog i ofalu eu bod yn gwybod ble mae eu plant a beth maent yn ei wneud, a'u hannog i fynd i ddigwyddiadau a drefnwyd.
Dywedodd y Cynghorydd Pam Palmer, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor dros Ddiogelwch Cymunedol: “Rydym am atgoffa pobl y gallant gael hwyl heb iddo arwain at ymddygiad sy’n achosi difrod neu niwsans. Nid ydym am fod yn surbwch na difetha hwyl pobl ond rydym yn sylweddoli bod yr adeg hon o'r flwyddyn yn codi ofn ar lawer o drigolion, yn enwedig yr henoed. Cofiwch barchu eraill ac ymddwyn yn gyfrifol yw fy nghyngor i bobl er mwyn inni fwynhau Nos Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn ddiogel.”
Cyngor ynghylch Cast ynteu Ceiniog:
• Gofalwch bod oedolyn yn eich hebrwng bob amser
• Dim ond i dai pobl yr ydych chi neu eich ffrindiau yn eu hadnabod y dylech alw heibio
• Dim ond i dai sy'n dangos bod croeso i rai sy'n chwarae 'cast ynteu ceiniog' y dylech alw heibio
• Peidiwch â siarad â dieithriaid.
• Peidiwch â mynd i mewn i unrhyw dŷ, arhoswch ar garreg y drws bob amser.
Diogelwch Tân Gwyllt:
• Gofalwch eich bod bob amser yn prynu tân gwyllt sy’n cydymffurfio â'r Safonau Prydeinig. Dylai BS 7114 fod wedi’i ysgrifennu ar ochr y bocs
• Cadwch dân gwyllt mewn bocs caeedig. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar bob tân gwyllt, taniwch y tân gwyllt o hyd braich, a sefwch yn ddigon pell yn ôl
• Peidiwch byth â mynd yn agos i dân gwyllt sydd wedi cael ei danio. Hyd yn oed os nad yw wedi fflamio, gallai ffrwydro o hyd
• Peidiwch byth â rhoi tân gwyllt yn eich poced na’i daflu
• Gofalwch fod plant yn cael eu goruchwylio bob amser os yw tân gwyllt yn cael ei ddefnyddio
• Cadwch anifeiliaid anwes i mewn
• Peidiwch ag yfed alcohol os ydych yn tanio tân gwyllt
• Peidiwch â thanio tân gwyllt ar y stryd nac mewn man cyhoeddus
• Os oes modd, ewch i ddigwyddiadau a drefnwyd