Rhaid talu Treth y Cyngor mewn 10 rhandaliad misol o fis Ebrill, yn ddyledus ar y 15fed o bob mis neu cyn hynny, oni bai eich bod wedi dewis talu trwy Ddebyd Uniongyrchol.
Os ydych yn dod yn gymwys i dalu Treth y Cyngor yn ystod y flwyddyn bydd eich rhandaliadau'n cael eu haddasu yn ôl nifer y dyddiadau talu sy'n weddill.
Taliadau Electronig
Drwy ddefnyddio'r gwasanaeth taliadau ar-lein gallwch dalu eich biliau Cyngor gydag un o'r mathau canlynol o gardiau credyd/debyd (Visa, Mastercard, Switch, Solo, Visa Delta)

Os ydych mewn man cyhoeddus rydym yn eich cynghori'n ddifrifol i sicrhau nad oes neb yn gallu gweld y manylion yr ydych yn eu bwydo i'r peiriant rhag iddynt cael eu camddefnyddio gan rywun arall.
Cliciwch i gael mynediad i'r Taliadau Electronig
Debyd Uniongyrchol
Mae debyd uniongyrchol yn ffordd hawdd, cyfleus a diogel o dalu eich biliau ac mae iddo nifer o fanteision:
- Gallwch ddewis o 3 dyddiad talu - 5ed, 15fed neu 28ain o bob mis.
- Mae trefnu Debyd Uniongyrchol yn syml ac ni chodir tâl amdano, a gallwch ei ganslo ar unrhyw adeg trwy ysgrifennu at eich banc neu gymdeithas adeiladu.
- Nid oes yn rhaid i chi adnewyddu eich Debyd Uniongyrchol bob blwyddyn.
- Mae Debyd Uniongyrchol yn cael ei warantu gan y banciau a'r cymdeithasau adeiladu dan sylw ac felly os oes camgymeriad yn cael ei wneud byddwch yn cael ad-daliad llawn yn syth.
- Byddwch yn derbyn llythyr yn nodi symiau, dyddiadau ac amlder y taliadau a fydd yn cael eu tynnu o'ch cyfrif ac o unrhyw newidiadau 10 diwrnod ymlaen llawn, er mwyn rhoi amser i chi wneud ymholiadau yn eu cylch os oes angen.
- Os yw manylion y taliadau'n newid, nid oes rhaid llanw unrhyw ffurflenni newydd na thrafferthu i chwilio am amlenni neu stampiau, na chiwio yn y banc, cymdeithas adeiladau neu swyddfa bost. Y cyfan sydd angen ei wneud yw arwyddo un ffurflen ac mae'r newidiadau y cytunwch iddynt yn cael eu gwneud yn syth.
Er mwyn gwneud cais argraffwch y ffurflen debyd uniongyrchol, cwblhewch yr holl adrannau a dychwelwch y ffurflen atom i'r cyfeiriad a nodir. Fel arall ffoniwch 01267 228602 am fwy o fanylion.
Cardiau Credyd a Debyd
Mae'r awdurdod yn derbyn taliadau cardiau credyd a debyd a chewch dalu dros y ffôn neu drwy ymweld ag un o bedair Swyddfa Arian y Cyngor (gweler isod)
I dalu bydd arnoch angen:
- Y cyfeirnod 9 digid a nodir ar eich bil.
- Y swm sy'n daladwy.
- Eich cerdyn credyd neu ddebyd.
I dalu, ffoniwch 01267 228686 neu galwch yn yswyddfeydd isod.
Archeb Reolaidd
I'r rheiny y mae'n well ganddynt dalu yn y ffordd hon, mae manylion banc yr Awdurdod fel a ganlyn:
Banc HSBC Ccc
Côd didoli: 40-16-23.
Enw'r cyfrif: Cyngor Sir Caerfyrddin.
Rhif y cyfrif. 11258990
Yn Bersonol neu drwy'r post
Mae'r gan y Cyngor 4 o swyddfeydd talu, ac mae'r manylion a'r oriau agor fel a ganlyn:
Caerfyrddin
Swyddfeydd y Cyngor
3, Heol Spilman
Caerfyrddin
SA31 1LE
Llanelli
Ty Elwyn
Sgwâr Neuadd y Dref
Llanelli
SA15 3AP
Dydd Llun i ddydd Iau 8.45am i 5.00pm
Dydd Gwener 8.45am i 4.30pm
Rhydaman
Neuadd y Dref
Heol Iscennen
Rhydaman
SA18 3BE
Llandeilo
Adeiladau'r Cyngor
Heol Cilgant
Llandeilo
SA19 6HW
Dydd Llun i ddydd Iau: 8.45am i 1.00pm,1.45pm i 5.00pm
Dydd Gwener: 8.45am i 1.00pm, 1.45pm i 4.30
Dylid gwneud sieciau'n daladwy i 'Cyngor Sir Caerfyrddin'.
Yn Swyddfa'r Post
Gallwch dalu Treth y Cyngor yn eich Swyddfa Bost leol.
1. Cerdyn Talu Giro - dim ond gydag arian parod y gallwch dalu yn y modd hwn. Os nad ydych yn talu yn y modd hwn ar hyn o bryd ac yn awyddus i gael cerdyn, cysylltwch â ni yn un o'r cyfeiriadau uchod. Ni chodir tâl am y gwasanaeth hwn.
2. Transcash - Cwblhewch y ffurflen (sydd ar gael o'ch Swyddfa Bost) gan ddyfynnu rhif cyfrif Girobank y Cyngor - 4432452 ynghyd â'ch enw, cyfeiriad a chyfeirnod. Bydd y Swyddfa Bost yn codi tâl arnoch am y gwasanaeth hwn.