Y person fydd yn atebol i dalu Treth y Cyngor yw'r person sy'n 18 oed neu'n hŷn sy'n ateb y disgrifiad sydd agosaf i dop y tabl canlynol.
- Rhydd-ddeiliad Preswyl
- Llesddeiliad Preswyl
- Tenant Preswyl
- Daliwr Trwydded Preswyl
- Preswylydd
- Perchennog Dibreswyl
Yn y rhan fwyaf o achosion y preswylydd sydd naill ai'n berchen ar y cartref neu'n ei rentu, fydd y person hwn.
Lle nad oes preswylwyr y perchennog fydd yn atebol os nad yw'r eiddo wedi'i osod ar brydles i berson am 6 mis neu fwy a'r cyfnod hwnnw heb ddod i ben.
Gall perchenogion fod yn atebol i dalu Treth y Cyngor ar rai eiddo a feddianner, er nad ydynt yn byw ynddynt eu hunain, mae'r rhain yn cynnwys:
- Cartrefi gofal preswyl a chartrefi nyrsio
- Tai amlbreswyliaeth
- Preswylfeydd ym meddiant cymuned grefyddol
- Preswylfeydd ym meddiant staff sy'n byw i mewn a gyflogir i wasanaethu'r cartref
- Preswylfeydd gweinidogion crefyddol.
- Atebolrwydd ar y Cyd ac Atebolrwydd Nifer
Pan fo gan fwy nag un person fudd mewn eiddo, bydd pob un ohonynt yn atebol i dalu holl gostau Treth y Cyngor.
Mae hyn yn golygu, os bydd 2 berson yn atebol ar y cyd am Dreth y Cyngor y bydd y naill a'r llall yn gyfrifol am sicrhau fod y bil cyfan yn cael ei dalu ac nid ei gyfran ef yn unig.
Ystyrir parau priod (sy'n byw yn yr un eiddo) neu barau sy'n byw gyda'i gilydd fel gwr a gwraig i fod yn atebol ar y cyd am Dreth y Cyngor hyd yn oed os mai enw un ohonynt yn unig sydd wedi'i nodi fel perchennog neu denant yr eiddo.