|
Amgylchiadau |
Sylwadau |
|
Os yw eiddo'n dod yn wag a heb ddodrefn. |
Wedi'i eithrio ar gyfer y chwe mis cyntaf yn unig, ac wedi hynny rhaid talu 50% oni bai fod yr eiddo wedi'i eithrio am ryw reswm arall. |
|
Preswylfeydd gwag a heb ddodrefn lle mae gwaith mawr angen ei wneud, yn cael ei wneud neu newydd ei gwblhau |
Uchafswm y cyfnod eithriedig yw 12 mis, ar ôl hynny mae tâl o 50% yn ddyledus (os yw'r eiddo yn dal heb ei ddodrefnu). |
|
Eiddo sydd wedi'u gadael yn wag gan gleifion mewn ysbytai neu gartrefi gofal. |
Nid yw cyfnodau ymadfer byr yn gymwys. |
|
Preswylfeydd a adewir yn wag gan bobl sy'n derbyn gofal (ac eithrio mewn ysbyty/cartref gofal). |
Mae'n ofynnol mai'r breswylfa oedd prif gartref y person sy'n derbyn gofal a'i bod heb ei meddiannu gan eraill ers iddi ddod yn wag. Nid yw cyfnodau ymadfer byr yn gymwys. |
|
Preswylfeydd wedi'u gadael yn wag gan bersonau sy'n rhoi gofal. |
Mae'n ofynnol mai'r breswylfa oedd prif gartref y person sy'n rhoi gofal a'i fod heb ei feddiannu gan eraill ers iddo ddod yn wag. |
|
Mae’r talwr Treth y Cyngor wedi marw ac ni fu neb yn byw yn yr eiddo ers hynny. |
Mae eithriad yn berthnasol i berchenogion ymadawedig (pan nad oes perchennog presennol) ac i denantiaid ymadawedig pan fo'r cynrychiolwyr personol yn dal yn gyfrifol am dalu'r rhent. Bydd yr eithriad yn dod i ben 6 mis ar ôl cael grant profiant neu lythyron gweinyddu (ond gall gostyngiad fod yn berthnasol wedi hyn) |
|
Preswylfeydd sydd wedi'u hadfeddiannu gan y rhoddwr morgais. |
Rhaid i'r eiddo fod heb breswylydd. |
|
Rhandai heb eu meddiannu. |
Yn unig lle nad oes modd gosod y rhandy ar wahân i'r prif gartref oherwydd cyfyngiadau cynllunio. |
|
Eiddo gwag ym mherchnogaeth elusennau. |
Am gyfnod heb fod yn hwy na 6 mis yn amodol ar yr eiddo yn cael ei ddefnyddio at fwriadau'r elusen. |
|
Eiddo gwag sy'n perthyn i glerigwyr. |
Wedi'i eithrio os yw'n cael ei gadw ar gyfer gweinidog crefyddol. |
|
Eiddo a adawyd yn wag gan garcharorion. |
Mae'n ofynnol mai'r breswylfa oedd, neu fydd, eu prif gartref (nid yw'n gymwys os methiant i dalu Treth y Cyngor neu dirwy oedd y drosedd). |
|
Eiddo y gwaherddir eu meddiannu gan y gyfraith. |
Nid yw'n gymwys os yw'r eiddo yn cael ei feddiannu yn anghyfreithlon. |
|
Preswylfeydd gwag sy’n eiddo i fyfyrwyr |
Y tro diwethaf y bu rhywun yn preswylio yno, rhaid i'r eiddo fod wedi'i ddefnyddio yn brif gartref y myfyriwr/myfyrwraig sy’n berchen arno. Rhaid i'r perchennog fod wedi bod yn fyfyriwr/ myfyrwraig ers iddo/iddi adael, neu fod wedi mynd yn fyfyriwr/ myfyrwraig cyn pen 6 wythnos ar ôl ymadael. |
|
Preswylfeydd a adawyd yn wag gan fethdalwyr. |
Dim ond pan fo'r un sy'n agored i'r dreth yn ymddiriedolwr(aig) y caniateir hyn. |
|
Llain ar gyfer carafán neu angorfa. |
Yn unig pan nad oes carafán neu gwch yn eu defnyddio. |
|
Neuaddau preswyl myfyrwyr. |
Rhaid i'r llety fod yn eiddo i sefydliad addysgol penodedig neu gorff a sefydlwyd at ddibenion elusennol yn unig neu dan reolaeth sefydliad/corff o'r fath. |
|
Preswylfeydd lle mae dim ond y bobl berthnasol yn byw ynddynt h.y. myfyrwyr amser llawn, rhai dan 20 oed sy'n ymgymryd â chwrs rhan-amser cymwys, neu gynorthwywyr iaith dramor.
neu bobl nad ydynt o Brydain ac sydd hefyd yn briod / partner sifil / dibynnydd i'r uchod
neu rai penodol sy'n gadael ysgol/coleg. |
Rhaid i fyfyrwyr rhan-amser fod dan 20 oed ac yn astudio ar gyrsiau a gynhelir fel rheol yn ystod y dydd ac nad ydynt yn gyrsiau addysg uwch,
Rhaid atal y rhai nad ydynt o Brydain ac sydd hefyd yn briod / partner / dibynnydd rhag ymgymryd â gwaith cyflogedig a rhag hawlio budd-daliadau gwladol, a
rhaid i'r rhai sy'n gadael ysgol fod wedi gwneud hynny ar ôl 30ain Ebrill a chyn 1af Tachwedd unrhyw flwyddyn. |
|
Preswylfeydd â dim ond pobl sydd â Nam Meddyliol Difrifol yn byw ynddynt neu lle mae pobl berthnasol hefyd yn byw. |
Nid yw hyn yn berthnasol os nad yw’r sawl sydd â nam meddyliol difrifol yn agored i'r dreth fel arall e.e. cartref nyrsio pan fo'r perchennog ac nid y preswylydd yn agored i'r dreth. Bydd yn rhaid cael tystysgrif gan feddyg a rhaid i'r un dan sylw fod yn gymwys i gael budd-dal gwladol cymwys. Mae'r eithriad yn dal yn berthnasol os yw person perthnasol hefyd yn preswylio yno (gweler y categori uchod i gael gwybod pwy sy'n berson perthnasol). |
|
Rhandy lle mae perthynas oedrannus neu anabl yn byw. |
Rhaid iddi fod yn brif breswylfa i un sy'n 65 oed neu'n hŷn, neu sydd â nam meddyliol difrifol neu sydd ag anabledd sylweddol a pharhaol. Rhaid iddo/iddi berthyn hefyd i un sy'n byw yn y brif breswylfa. |
|
Preswylfeydd â dim ond pobl dan 18 oed yn byw ynddynt. |
Bydd yr eithrio’n para hyd nes y bydd y preswylydd yn 18 oed. |
|
Llety i'r lluoedd arfog. |
Mae'r eithrio'n berthnasol i breswylfeydd sy'n eiddo i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn p'un a oes rhywun yn preswylio ynddynt ai peidio. |
|
Preswylfa lle mae un sydd ag imwneddd neu freintiau diplomyddol (neu debyg) yn byw |
Nid yw'r eithrio'n berthnasol os nad yw’r un dan sylw yn agored i'r dreth fel arall. Rhaid i'r un dan sylw beidio â bod yn ddinesydd Prydeinig nac yn breswylydd parhaol yn y Deyrnas Unedig. |
|
Aelod o Lu ar Ymweliad (neu ddibynnydd aelod o'r fath) sy'n byw yn y breswylfa. |
Nid yw'r eithrio'n berthnasol os nad yw’r person yn agored i'r dreth fel arall. Mae'n berthnasol hefyd i aelod o elfen sifil y Llu, neu ddibynnydd aelod o'r fath, os nad yw'r un dan sylw'n ddinesydd Prydeinig neu os nad yw fel rheol yn byw yn y Deyrnas Unedig. |