Hysbysiad Treth y Cyngor
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 22/3/2013
Hysbysiad Treth y Cyngor 

Mae’r Cyngor wedi clustnodi £536.756m yn ei gyllideb i wario ar ddarparu gwasanaethau i’w drethdalwyr yn 2013/14 (o’i gymharu â ffigur o £517.527m yn 2012/13).

Telir swm pellach o £9.241m i gyrff cyhoeddus eraill ar ffurf taliadau treth a chyfraniadau.

Y gwariant net yw £339.372m. £979.70 fydd y dreth Band D a godir gan y Cyngor Sir ar Drethdalwyr y Cyngor ar gyfer 2013/14, sy’n cynrychioli codiad o 3.00% o ran Treth y Cyngor.

Gwariant cyfalaf

Mae'r awdurdod yn bwriadu gwario £93.9m yn 2013/14ar brosiectau cyfalaf (£79.5m yn 2012/13), a ariennir o'r ffynonellau canlynol:-

   £m
 Benthyciadau 34.3
 Derbyniadau o Werthu Asedau 3.1
 Cymorth Grant 45.1
 Ffynonellau Eraill  11.4
 Cyfanswm 93.9

Cronfeydd ariannol wrth gefn

Mae angen cronfeydd cyffredinol wrth gefn (neu weddillion) i ganiatau ar gyfer lefelu'r codi a'r gostwng sy'n digwydd mewn gweithgareddau ariannol unrhyw flwyddyn . Amcangyfrifir y bydd gweddillion o'r fath tua £6.5m ar y 31ain o Fawrth , 2014 (£6.3m ar y 31ain o Fawrth , 2013).

Mae'r awdurdod hefyd wedi rhoi cronfeydd eraill wrth gefn o'r neilltu i gwrdd a gwariant penodol ac amcangyfrifir y bydd eu cyfanswm hwy yn £38.9m ar yr 31ain o Fawrth , 2014 (£38.9m ar yr 31ain Fawrth 2013) .

Cymhariaeth a Chanllawiau'r Llywodraeth

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn pennu Asesiad Gwariant Safonol ar gyfer y Cyngor .Dyma'r swm y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn asesu sydd ei angen, mewn termau cymharol, i ddarparu lefel safonau o wasanaeth yn yr ardal.

Nodir isod yr asesiad ar gyfer 2013/14 yngyd a chymhariaeth a gofynion cyllidebol y Cyngor.

 

 

Band D Treth Cyngor  £

 Asesiad Gwariant Safonol  339.704(m) 1003
 Gofynion Cyllidebol  (gan gynnwys praeseptau Cymuned)  343.887(m) 1047

 

 A  B  C  D  E  G  H  I Band Prisio
 6/9 7/9   8/9  9/9  11/9  13/9  15/9  18/9  21/9 Cyfran o'r Dreth
653.13 761.99 870.84 979.70 1197.41 1415.12 1632.83 1959.40 2285.97 Y Cyngor Sir (£)
137.52 160.44 183.36 206.28 252.12 297.96 343.80 412.56 481.32 Heddlu Dyfed Powys (£)
45.15 52.68 60.20 67.73 82.78 97.83 112.88 135.46 158.04 Cynghorau Cymuned (cyfartaledd)(£)