English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 18/11/2011
Adroddiad Blynyddol ar Ein Perfformiad 

Cynhyrchir yr Adroddiad Blynyddol hwn gan y Cyngor oherwydd ein bod yn credu y dylem ddarparu gwybodaeth gynhwysfawr i'r cyhoedd am ein gwasanaethau, fel eu bod yn gallu gweld i ba raddau rydym yn llwyddo a'r heriau yr ydym yn eu hwynebu. Rydym am wneud yn fawr o'r adnoddau sydd gennym ac, er gwaethaf gostyngiadau yn y gyllideb, rydym am wella lle gallwn ni, a chael hyd i ffyrdd newydd, blaengar o gyflenwi gwasanaethau.

Hunanwerthusiad yw hwn, ac rydym yn ceisio bod mor agored ac mor onest ag y gallwn. Lle bo modd, rydym yn defnyddio data boddhad cwsmeriaid, canlyniadau a chymariaethau dangosyddion perfformiad a chanfyddiadau rheoleiddwyr allanol i hysbysu ein canfyddiadau. Yn ystod y blynyddoedd ers i ni ddechrau gwneud hyn, mae ein dull cytbwys a theg wedi cael ei gydnabod gan ein rheoleiddwyr allanol.

Mae asesu'r hyn rydym yn ei wneud yn rhan hanfodol o'r cylch gwella. Yn sgil y cam hanfodol hwn yn y broses wella, mae hefyd yn statudol ofynnol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.