Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Digital Services; : Llif Newyddion;>  | fersiwn symudol  | Teledu Digidol
Y Cyngor a Democratiaeth 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn un o’r cyflogwyr mwyaf a mwyaf amrywiaethol yn Ne Orllewin Cymru, gan gyflogi dros 9000 o weithwyr sy’n gweithio mewn nifer fawr o wahanol alwedigaethau a phroffesiynau.

Mae’r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar hyd a lled y sir wledig hon i boblogaeth o tua 180,500. Caiff y Cyngor ei reoli gan 74 o gynghorwyr etholedig yn cynrychioli nifer o grwpiau gwleidyddol. Nhw sy’n gwneud y penderfyniadau a chytuno polisïau a blaenoriaethau gwario’r Cyngor.

Drwy weithio'n agos gyda’n partneriaid a’r gymuned leol, rydym wedi ymrwymo i weledigaeth gyffrous, heriol ar gyfer y dyfodol - a amlinellwyd o fewn Strategaeth Gymunedol Sir Gaerfyrddin.

Mae gan y Cyngor chwe Chyfarwyddiaeth,

  • Prif Weithredwr
  • Addysg a gwasanaethau plant
  • Gofal Cymdeithasol a Thai
  • Gwasanaethau Technegol
  • Adfywio a Hamdden ac Adnoddau

Tudalen wedi ei diweddaru ar 25/2/2010

 
Manylion Cysyllt
 
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA31 1JP
Ffôn: 01267 234567
Ebost: galw@sirgar.gov.uk