Ein Cyflawniadau
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 24/4/2012
Ein Cyflawniadau 

Safon Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau
Ym mis Mehefin 2010, derbyniodd Galw Sir Gâr achrediad dan gynllun Swyddfa'r Cabinet sef Safon Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau.

Mae'r Safon Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid wedi bod yn gyfrwng ymarferol defnyddiol ar gyfer ysgogi newid sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid yn y gwasanaeth.
I dderbyn yr achrediad hwn, roedd y gwasanaeth yn destun archwiliad trwyadl lle bu'r asesydd yn siarad â chwsmeriaid, staff ac adrannau eraill yn y Cyngor.

Bu inni gyrraedd y lefel ofynnol o wasanaeth ym mhob un o'r pum maes canlynol:

• Rhoi Cipolwg i'r Cwsmeriaid
• Meddylfryd y Sefydliad
• Gwybodaeth a Mynediad
• Cyflawni
• Amseroldeb ac Ansawdd y Gwasanaeth

Yn adroddiad yr asesiad, dywedodd yr asesydd, "Mae'r gwasanaeth wedi'i reoli'n dda, mae'n arddel meddylfryd o roi pwyslais ar y cwsmeriaid, ac mae'n gallu profi bod y cwsmeriaid a'r staff yn fodlon iawn. Mae meincnodi ar raddfa eang yn dangos bod y gwasanaeth yn cymharu'n ffafriol â gwasanaethau eraill tebyg yng Nghymru.”

Galw Sir Gâr yw'r unig wasanaeth yng Nghyngor Sir Caerfyrddin sydd wedi ennill yr achrediad hwn am Ragoriaeth mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid.

Wythnos Genedlaethol Gwasanaethau Cwsmeriaid
Y Sefydliad Gwasanaethau Cwsmeriaid sy'n trefnu ac yn hyrwyddo Wythnos Genedlaethol Gwasanaethau Cwsmeriaid. Digwyddiad dros wythnos gyfan yw hwn i ddathlu proffesiynoldeb Gwasanaethau Cwsmeriaid, gan roi cyfle i danlinellu ymrwymiad Galw Sir Gâr i ddarparu Gwasanaethau Cwsmeriaid o'r radd flaenaf.

Mae Galw Sir Gâr wedi cymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Gwasanaethau Cwsmeriaid ers 2010. Eleni roedd digwyddiadau'r wythnos yn cynnwys cwisiau a chystadlaethau, diwrnod gwisgo dillad pob dydd, a raffl i godi arian at elusen. Mae nifer o elusennau ar eu hennill yn sgil cynnal y digwyddiadau hyn. Yn ogystal, yn ystod yr wythnos bu'r Uwch-reolwyr yn gwneud gwaith staff Galw Sir Gâr, gan ddysgu am fywyd staff 'rheng flaen' y gwasanaethau cwsmeriaid.