English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tlodi ac Amddifadedd 
Policy Co-ordination and Research

Gellir mesur tlodi ac amddifadedd mewn nifer o ffurf. Mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru yn cyfuno nifer o'r dulliau mesur hyn ar gyfer detholiad o ardaloedd daearyddol, ac yn pennu sgorau sy'n amlygu'r lefelau amddifadedd ym mhob ardal. Y Mynegai hwn yw'r llinyn mesur swyddogol o ran tlodi ac amddifadedd yng Nghymru. Yn 2005, yr unedau a ddefnyddiai'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer cofnodi daearyddol oedd "Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is”; o ganlyniad rhannwyd Cymru yn 1,896 o ardaloedd daearyddol, yr oedd gan bob un ohonynt boblogaeth o 1,500 ar gyfartaledd. Rhannwyd Sir Gaerfyrddin yn 112 o "Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is”, a gellir cael golwg ar y rhain ar dudalen Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2005.

Cyhoeddwyd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru ddiwethaf yn 2005, ond mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bwriadu cyhoeddi Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2008 yn ystod yr haf eleni. Gellir cael prif ganlyniadau Sir Gaerfyrddin drwy glicio ar fotwm “Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2005” ar y dde.

Yn fynych mesurir tlodi ar sail incwm, a bernir bod aelwyd yn dlawd os yw cyfanswm incwm blynyddol yr aelwyd yn 60% neu lai o ganolrif incwm aelwydwydd Prydain.  Mae gwybodaeth am gyfartaledd incwm aelwydydd Sir Gaerfyrddin a wardiau etholiadol y Sir ar gael ar y dudalen hon. Cyfrifwyd yr ystadegau hyn ar sail y data a grynhowyd gan CACI Ltd wrth lunio'r data PayCheck blynyddol. Cyfres o ddata cenedlaethol yw PayCheck sy'n amcangyfrif incwm aelwydydd cyn tynnu treth; mae'n cynnwys data o bob ffynhonnell, gan gynnwys budd-daliadau. Cliciwch yma neu ewch i'r dudalen "Incwm Aelwydydd” i gael gwybodaeth am gyfartaledd incwm aelwydydd Sir Gaerfyrddin.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am Fynegai 2005 gan Gyfarwyddiaeth Ystadegol Llywodraeth Cynulliad Cymru, drwy ddilyn y ddolen gyswllt ganlynol: www.wales.gov.uk/wimd2005

Peidiwch ag anghofio cael golwg ar y Modwl Ystadegau Rhyngweithiol i gael rhagor o ystadegau am y sir.

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 03/11/2008