English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Poblogaeth a Demograffi 
Policy Co-ordination and Research

Mae'r tudalennau hyn yn cynnwys gwybodaeth am boblogaeth Sir Gaerfyrddin. Cewch yma ystadegau am boblogaeth y Sir fel y'u cofnodwyd gan y Cyfrifiad yn 2001, yn ogystal â'r amcangyfrifon canol blwyddyn a lunnir bob blwyddyn gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae'r amcangyfrifon hyn yn rhoi amcan i ni ynghylch maint poblogaeth y Sir ar sail yr union nifer a gofnodwyd gan y Cyfrifiad yn 2001. Gellir cael golwg ar amcangyfrifon 2001  tan 2006 drwy glicio ar y botwm "Amcangyfrifon o'r Boblogaeth" ar y dde.

Ar hyn o bryd mae poblogaeth Sir Gaerfyrddin yn 178,043 yn ôl Amcangyfrif Canol Blwyddyn 2006, ac amcangyfrifir bod poblogaeth Cymru yn 2,965,885. Gan Sir Gaerfyrddin y mae'r boblogaeth bedwaredd fwyaf o blith 22 awdurdod lleol Cymru, gan gyfrif am 6% o gyfanswm poblogaeth Cymru.
Yn achos Amcangyfrifon Canol Blwyddyn 2006 defnyddiwyd technegau newydd mwy trylwyr ar gyfer amcangyfrif mewnfudo o dramor, fel y datganwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn 2007. Mae amcangyfrifon 2006 wedi eu llunio yn unol â'r fethodoleg newydd hon, ac yn sgil hynny mae'r elfen mudo rhyngwladol ynghyd ag amcangyfrifon poblogaeth 2002 tan 2005 wedi cael eu hadolygu. I gael rhagor o wybodaeth am Fewnfudo, cliciwch ar y botwm "Mewnfudo" ar y dde.

Edrychwch ar “Ystadegau ynghylch yr Iaith Gymraeg” i gael gwybodaeth am y siaradwyr Cymraeg yn y Sir.

I gael gwybodaeth gyffredinol am Boblogaeth Cymru ewch i wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol drwy glicio ar y ddolen gyswllt isod:

http://www.statistics.gov.uk/

Peidiwch ag anghofio cael golwg ar y Modwl Ystadegau Rhyngweithiol i gael rhagor o ystadegau am y Boblogaeth.

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 03/11/2008