Os ydych wedi symud er mis Hydref, wedi newid eich enw neu'n canfod nad yw eich enw ar y gofrestr gyhoeddedig am ryw reswm, gallwch wneud cais i ychwanegu eich manylion ati neu newid eich manylion drwy lenwi Ffurflen Cofrestriad Treigl.
Drwy lenwi'r ffurflen cofrestriad treigl a'i dychwelyd, gallwn ychwanegu eich enw at y gofrestr dan eich cyfeiriad newydd neu newid eich manylion presennol unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn, heblaw rhwng mis Medi a mis Tachwedd.
Caiff y broses cofrestriad treigl ei rhoi heibio yn ystod y misoedd hyn tra cynhelir y Canfasiad Blynyddol o'r Etholwyr.
Rhaid i chi eich hun lenwi a llofnodi’r ffurflen gofrestru. Os oes unrhyw un arall yn eich preswylfa'n gymwys i bleidleisio, rhaid iddo/iddi lenwi ffurflen ar wahân. Cewch argraffu cynifer o gopïau ag sydd eu hangen arnoch, llungopïwch y ffurflen neu cysylltwch ag Uned y Gwasanaethau Etholiadol i gael rhagor o gopïau.
Ffurflen Gais am Gofrestriad Treigl
Gallwch lawrlwytho'r ffurflen Cofrestriad Treigl o www.fymhleidlaisi.co.uk a chlicio ar ‘Cofrestru i Bleidleisio’. Llenwch y ffurflen a'i dychwelyd at y Gwasanaethau Etholiadol, 1 Heol Spilman, Caerfyrddin, SA31 1LE.
Pam cofrestru?
- Cofiwch mai dim ond os yw eich enw ar y Gofrestr Etholwyr y cewch bleidleisio mewn etholiadau.
- Mae'n llawer anos ichi gael credyd os nad ydych ar y gofrestr.
- Dan y gyfraith, mae'n ofynnol ichi gofrestru.
Pryd caiff eich enw ei gynnwys ar y Gofrestr?
Bydd yn weithredol o'r 16 Hydref 2012.
Fel arfer caiff y gofrestr ei llunio'n flynyddol drwy ddefnyddio'r wybodaeth y gwnaed cais i aelwydydd amdani rhwng mis Awst a mis Tachwedd. Fodd bynnag, yn 2013 bydd y canfasio blynyddol yn dechrau ym mis Hydref a bydd y gofrestr newydd o etholwyr yn cael ei chyhoeddi ym mis Mawrth 2014. Mae hyn yn digwydd gan fod y llywodraeth yn cyfnewid y system cofrestru etholwyr bresennol am system cofrestru unigol newydd yn 2014, ac mae'n rhaid diweddaru cymaint â phosibl ar y gofrestr cyn rhoi'r system newydd ar waith.
Dyddiadau Cofrestru Treigl Ar Gyfer 2013 (pdf)