Er mwyn cynyddu cyfranogiad cymunedol, mae Rhwydweithiau Cymunedol newydd wedi cael eu datblygu er mwyn dod a chymunedau, aelodau Cyngor, Cynghorwyr Dre a Chymuned a Phartneriaid Allweddol ynghyd.
Mae’r cyfarfodydd yn galluogi Cyngor Sir Caerfyrddin a’i Phartneriaid i gysylltu a gwrando ar y cymunedau ac mae’n gyfle hefyd i gymunedau ddylanwadu ar y ddarpariaeth o gynlluniau gwasanaethau yn eu hardaloedd.
Cafodd y Rhwydweithiau ei lansio yn Hydref 2004 a byddant yn ddiweddariad o’r fforymau ardal. Cynhelir y cyfarfodydd yma yn chwarterol. Mae’r cyfarfodydd yn anffurfiol ac yn annog pobl i gyfnewid syniadau a sylwadau ag i ddysgu wrth eu gilydd.
Pam Ddylasai Chi fynychu?
- Gallwch fod yn rhan eang o Bartneriaeth Sir Gaerfyrddin sydd yn symud gwaith partneriaeth ymlaen.
- Cewch manylion diweddaraf ar faterion sy’n bwysig i’ch cymunedau.
- Dim siop siarad mohono – Mae’r Rhwydweithiau wedi dylanwadu ar weithredu yn eich ardal.
- Mae rhai materion a godwyd wedi cael ei gweithredu yn syth.
- Mae aelodau cymunedol wedi cael eu hethol fel Is/Cyd-Gadeiryddion ar y Rhwydweithiau ond er mwyn sicrhau llwyddiant y Rhwydweithiau, mae angen eich cefnogaeth chi arni nhw drwy fynychu’r cyfarfodydd a’u hysbysebu ar lefel lleol.
- Cydgysylltir y Rhwydweithiau gan y Tîm Cynllunio Cymunedol, sydd wedi lleoli yn Adran Y Prif Weithredwr.
Am fanylion pellach ynglŷn a’r Rhwydweithiau Cymunedol, yn cynnwys dyddiadau cyfarfodydd a chofnodion, gweler gwefan Partneriaeth Sir Caerfyrddin.