Mae gan y Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd gyfrifoldeb am y materion canlynol:
- Gofal cymdeithasol ar gyfer pobl hŷn
- Oedolion ag anghenion dysgu
- Gwasanaethau Iechyd Meddwl
- Safonau Maeth
- Oedi wrth drosglwyddo gofal
Mae gan y Pwyllgor yma 14 o aelodau.
Cyd-Fforwm Craffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd wedi datblygu cysylltiadau agos gyda cangen Sir Gaerfyrddin o Gyngor Iechyd Cymunedol Hywel Dda. Yn 2009 sefydlwyd y Cyd-Fforwm Craffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn cryfhau'r broses o graffu ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Cynhelir cyfarfodydd y Fforwm yn gwarterol ac maent yn agored i'r cyhoedd yn ogystal.
Am fwy o wybodaeth ar gylch gorchwyl, aelodaeth, cyfarfodydd (agendâu a nodiadau gweithredu), ynghyd â blaenraglen waith y Fforwm, cysylltwch gyda'r Tîm Craffu ac Ymgynghoriaeth ar 01267 246121 neu drwy ebost: craffu@sirgar.gov.uk.
Ar hyn o bryd, mae'r Fforwm yn adolygu effaith y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) newydd yn Sir Gaerfyrddin.
Yn ystod 2011/12 fe wnaeth y Fforwm gynnal adolygiad o Wasanaethau Dementia yn Sir Gaerfyrddin. Gellir darllen yr adroddiad terfynol ar-lein.