Y Pwyllgorau Craffu
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 29/6/2012
Y Pwyllgorau Craffu 

Mae'r pwyllgorau fel arfer yn cyfarfod bob 6 wythnos i ystyried materion ac adroddiadau a gynhwysir yn eu blaenraglenni gwaith, a ddatblygir ar ddechrau blwyddyn y cyngor. Trefnir cyfarfodydd ychwanegol o bryd i'w gilydd os bydd angen, ac weithiau cynhelir cyfarfodydd arbennig neu gyfarfodydd ar y cyd i ystyried materion brys neu faterion rhychwantu.

Mae cyfansoddiad y pwyllgorau craffu yn wleidyddol gytbwys i amlygu cyfansoddiad gwleidyddol y Cyngor cyfan, i'r graddau y mae hynny'n bosibl. Penodir cadeiryddion ac is-gadeiryddion ar ddechrau blwyddyn y cyngor am gyfnod o flwyddyn (e.e. Mai 2012 hyd fis Mai 2013).

Am fwy o wybodaeth ar Bwyllgorau Craffu Cyngor Sir Caerfyrddin, cliciwch ar y cysylltiadau isod: