English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 01/11/2011
Blaenraglenni Gwaith 

Mae’n ofynnol fod pob Pwyllgor Craffu yn llunio ac yn cyhoeddi rhaglen o waith a gynllunnir yn ystod blwyddyn y Cyngor, sy’n cael ei alw’n Flaenraglen Waith.

Bydd y Rhaglen yn cynnwys amryw o faterion ac adroddiadau a fydd yn cael sylw yn ystod y flwyddyn. Fe’i llunnir, gan amlaf, i adlewyrchu’r materion sy’n deillio o Raglen Gwaith Cychwynnol y Bwrdd Gweithredol.

Datblygir y Rhaglen gan yr aelodau o’r Pwyllgor Craffu ac mae’n hyblyg ei natur fel bod modd i’r Pwyllgor ymateb i faterion brys. Bydd y Rhaglen hefyd yn adlewyrchu rôl y Pwyllgorau Craffu o ran monitro perfformiad, datblygu polisïau a gwaith ymchwil.

Mae Pwyllgorau Craffu’r Cyngor Sir wedi datblygu eu Blaenraglenni Gwaith ar gyfer Medi 2011 i Gorffennaf 2012, a chafodd rhain eu cymeradwyo gan y pwyllgorau perthnasol yn ystod eu cyfarfodydd yn Hydref 2011. Gellir darllen y Blaenraglenni Gwaith drwy glicio ar y cysylltiadau ar ochr dde y dudalen yma.