English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 10/9/2009
Gwybodaeth am y broses Craffu 

Pam cael proses Craffu?

Un o brif amcanion agenda Moderneiddio Llywodraeth Leol oedd gwneud aelodau etholedig yn fwy atebol am y penderfyniadau a wneir ganddynt ar ran eu cymuned leol, a hefyd cyflymu'r broses o wneud penderfyniadau gan fod y broses honno ym marn llawer yn araf ac yn or-fiwrocrataidd. Roedd angen i'r holl broses ddemocrataidd fod yn fwy gweledol a chynhwysol i'r bobl leol. Roedd cyflwyno Deddf Llywodraeth Leol 2000 yn cydnabod y gwendidau hyn ac yn gwneud cynigion i awdurdodau lleol sefydlu trefniadau gwleidyddol newydd yn seiliedig ar swyddogaeth 'Gweithrediaeth' a 'Chraffu' annibynnol.

 

Beth yw rôl y Pwyllgorau Craffu?

Amlinellir isod brif rolau a chyfrifoldebau’r Pwyllgorau Craffu:

  • Mae Pwyllgorau Craffu yn archwilio pa mor dda y mae'r Weithrediaeth a/neu'r Awdurdod yn perfformio o ran cyflawni ei nodau a'i amcanion allweddol
  • Mae'n sicrhau bod y Weithrediaeth yn atebol yn gyhoeddus, ac yn ceisio hyrwyddo proses o wneud penderfyniadau sy'n agored ac yn dryloyw, ac atebolrwydd democrataidd
  • Hefyd mae i swyddogaeth craffu rôl allweddol yn y gwaith o ddatblygu, monitro ac adolygu polisïau'r Cyngor
  • Y Pwyllgorau Craffu sy'n ysgwyddo'r cyfrifoldeb o oruchwylio bod Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella yn cael ei gweithredu'n effeithiol gan gynnwys gwneud asesiad risg blynyddol, adolygu rhaglenni a'r prosesau monitro cynlluniau gweithredu sy'n gysylltiedig â'r rhaglenni hynny
  • Mae’n caniatáu i sefydliadau a phartneriaid allanol gymryd rhan mewn ystyried materion a all effeithio ar y modd y cyflawnir amcanion y Cyngor ac amcanion y sir yn gyfan