Ni thelir cyflog i Gynghorwyr, ond gallant hawlio lwfansau a threuliau ar gyfer rhai o'r costau sydd ynghlwm wrth gyflawni eu dyletswyddau cyhoeddus.
Pennir y lwfansau hyn gan y Panel Taliadau Annibynnol Cenedlaethol. Mae'r holl Gynghorwyr yn cydymffurfio â chôd ymddygiad, y mae rhan ohono'n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddatgan unrhyw fuddiannau ariannol, rhoddion, neu letygarwch a allai ddylanwadu ar y penderfyniadau y maent yn eu gwneud.