Dweud eich dweud
Rydym am i’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu fod cystal ag sy’n bosibl, a dyna pam y mae eich adborth yn bwysig i ni.
Efallai y byddwch yn teimlo’n anfodlon ar y gwasanaeth yr ydych yn ei gael, neu efallai y bydd gennych awgrym a fydd o gymorth i ni ei wella.
Rydym yn gobeithio hefyd y bydd adegau pan fyddwn yn gwneud gwaith da.
Cwynion
Rydym yn sylweddoli bod gan bawb hawl i gwyno ac y gall cwynion ddysgu gwersi gwerthfawr i ni. Mae’n bosibl iawn y bydd eich cwyn yn gwella pethau i bawb.
Canmoliaeth
Byddem yn hoffi cael gwybod am yr achosion hynny pan lwyddodd ein gwasanaeth i wneud argraff dda arnoch neu eich plesio. Gallwn ddefnyddio’r enghreifftiau hynny i rannu arfer gorau ymhlith ein staff. Gall canmoliaeth fod o gymorth hefyd i hybu hyder ac annog ein staff i ddarparu gwasanaeth ardderchog unwaith eto.
Pryd dylid defnyddio'r weithdrefn hon?
Pan fyddwch yn mynegi pryderon neu'n cwyno wrthym, byddwn fel arfer yn ymateb fel yr eglurir isod. Fodd bynnag, weithiau gall fod gennych hawl statudol i apelio (e.e. yn erbyn penderfyniad i wrthod rhoi caniatâd cynllunio neu fudd-dal treth y cyngor i chi) felly, yn hytrach nag ymchwilio i'ch pryder, byddwn yn esbonio wrthych sut gallwch chi apelio.
Mae gennym daflen ar wahân sy'n egluro gweithdrefnau ein hadran Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer ymdrin â chwynion. Os hoffech dderbyn copi o'r daflen, cysylltwch â'r Tîm Cwynion a Chanmoliaeth drwy ffonio 01267 224488, anfonwch e-bost i cwynion@sirgar.gov.uk neu ewch i wynion, canmol neu wneud sylwadau
Rydym yn gobeithio y bydd ein system gwynion yn eich helpu i ddatrys unrhyw broblemau yn gyflym ac yn llwyddiannus. Fodd bynnag, os na fyddwn yn llwyddo i ddatrys eich cwyn, gallwch gwyno wrth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae'r Ombwdsmon yn disgwyl eich bod yn dod â'ch pryderon i’n sylw ni yn gyntaf, ac yn rhoi cyfle i ni unioni'r sefyllfa.
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr, CF35 5LJ
Rhif Ffôn: (01656) 641150 E-bost: ask@ombudsman-wales.org
Gwefan: www.ombudsman-wales.org.uk/cy