Mae Cyngor Sir Caerfyrddin bellach wedi pennu ei Dreth Gyngor a’i Renti Tai ar gyfer 2010/11.
Mae’r Crynhoad Cyllideb hwn yn dwyn ynghyd, mewn un ddogfen ac ar ffurf crynodeb, wybodaeth gyllidebol yr Awdurdod ar gyfer Refeniw a
Chyfalaf. Mae tudalennau canlynol y crynhoad hwn yn rhoi manylion:
- Crynodeb o’r prif faterion cyllidebol.
- Y ffordd y mae’r Awdurdod yn bwriadu gwario ei adnoddau ar draws ei Wasanaethau ac o le mae’r cyllid yn dod.
- Sut mae lefel Treth Gyngor yr Awdurdod yn cymharu ag Awdurdodau eraill Cymru.
- Lefelau’r Dreth Gyngor sy’n daladwy yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer pob band.
- Crynodeb Cyffredinol o Raglen Buddsoddi Cyfalaf 3 blynedd 2010 i 2013.
- Crynodeb Cyffredinol o’r Cyllidebau Refeniw ar gyfer 2010/11 ar gyfer Cronfa’r Cyngor gyda chyllidebau mynegiannol ar gyfer
2011/12 a 2012/13.
- Cyfrif Refeniw Tai Cryno cyffredinol ar gyfer 2010/11 gyda chyllidebau mynegiannol ar gyfer 2011/12 a 2012/13.
- Cyllidebau’r Adrannau wedi’u dadansoddi ar lefel gwasanaeth.