Cyfraddau'r Lwfans Tai Lleol (LTLl) ar gyfer AMRE CAERFFYRDDIN
Gwybodaeth bwysig: Y rhain yw'r cyfraddau BLYNYDDOL NEWYDD a fydd yn dod i rym ar 1AF EBRILL 2013. Bellach ni fydd cyfraddau'r Lwfans Tai Lleol yn newid o fis i fis. Byddant yn destun adolygiad blynyddol yn unig.
| Llety a rennir |
A |
£51.10 |
| Un ystafell wely |
B |
£71.54 |
| Dwy ystafell wely |
C |
£91.15 |
| Tair ystafell wely |
D |
£103.85 |
| Pedair ystafell wely |
E |
£126.92 |
Bydd eich Budd-dal Tai yn seiliedig ar gyfradd y Lwfans Tai Lleol sy'n gymwys i chi. Mae hyn yn dibynnu ar nifer yr ystafelloedd gwely y mae gennych hawl iddynt.
pob pâr sy'n oedolion (wedi priodi neu heb briodi)
unrhyw oedolyn arall 16 oed neu drosodd
unrhyw ddau blentyn o'r un rhyw o dan 16 oed
unrhyw ddau blentyn o dan 10 oed
unrhyw blentyn arall (o dan 16 oed)
gofalwr (neu dîm o ofalwyr) nad yw/nad ydynt yn byw gyda chi ond yn darparu gofal dros nos i chi neu’ch partner.
Y nifer mwyaf yw PEDAIR ystafell wely
Nid ydym yn cyfrif ystafelloedd eraill fel ystafell fyw, cegin neu ystafell ymolchi.
Enghraifft: byddai ar bâr ag un plentyn angen un ystafell wely i'r pâr ac un ystafell wely i'r plentyn. Byddem yn defnyddio cyfradd y Lwfans Tai Lleol dwy ystafell i gyfrifo eu budd-dal.
*O'r 1af Ionawr 2012 mae gan bobl sengl o dan 35 oed hawl i'r gyfradd llety un ystafell a rennir. Bydd gan bobl sengl dros 35 mlwydd oed a pharau heb blant dibynnol hawl i'r gyfradd ar gyfer eiddo un ystafell wely, er enghraifft fflat un ystafell wely neu stiwdio neu fath arall o lety hunangynhwysol, ar yr amod eu bod yn rhentu eiddo o'r maint hwn o leiaf.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'r canlynol:
- ffoniwch eich adran Budd-daliadau Tai ar 01554 742100
- anfonwch e-bost atom nibudd.daliadau@sirgar.gov.uk
- ewch i’ch canolfan gwasanaethau cwsmeriaid agosaf yn: 3 Heol Spilman, Caerfyrddin Tŷ Elwyn, Llanelli Neuadd y Dref, Heol Iscennen, Rhydaman
- ewch i www.direct.gov.uk
- Ysgrifennwch atom ni: Adain Budd-daliadau Tai, 2il lawr, Tŷ Elwyn, Llanelli, SA15 3AP
Cofiwch mai canllaw yn unig yw'r daflen hon. Nid fwriedir iddi nodi’n union beth yw eich hawliau cyfreithiol.