
Os ydych ar incwm isel ac yn talu rhent neu Dreth y Cyngor, efallai y gallwch gael help i dalu eich costau.
Budd-dal Tai
Mae'r Budd-dal Tai yn helpu i dalu eich rhent.
Mae hyn yn cynnwys rhai preswylfeydd a osodir yn breifat a phreswylfeydd Cymdeithasau Tai. Gallwch gael y taliad ar ffurf siec neu BACS. Y Lwfans Rhent y gelwir hyn.
Os ydych yn denant i'r Cyngor, mae'n cael ei dynnu o'ch rhent. Ad-daliad rhent y gelwir hyn.
Lwfans Tai Lleol
Math newydd o Fudd-dâl Tai yw'r Lwfans Tai Lleol, ac mae ar gyfer tenantiaid ar incwm isel sy'n byw mewn llety sy'n cael ei rentu'n breifat.
Nid yw’n cymryd lle'r Budd-dal Tai. Mae'n defnyddio lwfans cyfradd benodedig sy’n seiliedig ar nifer y bobl sy'n byw gyda'r tenant a'r ardal lle mae'n rhentu preswylfa i bennu faint o fudd-dâl y bydd yn ei dderbyn.
Mae'n cael ei dalu'n uniongyrchol i'r tenant, drwy BACS os oes modd. .
Budd-dal Treth y Cyngor
Gostyngiad ar y bil Treth y Cyngor sydd i'w dalu ar gyfer eich cartref yw'r Budd-dal Treth y Cyngor. Yr un fath ag ad-daliadau rhent, mae hwn yn cael ei dynnu o'r bil Treth y Cyngor.
Nod yr Ad-daliad Ail Oedolyn yw gwneud iawn am y gostyngiad unig breswylydd a gollir gan yr un sy'n talu Treth y Cyngor pan fydd person arall sydd ag incwm isel yn byw yn y cartref.
Gan fod prawf modd ar gyfer y ddau fudd-dal hyn, bydd angen ichi ddarparu eich manylion llawn a phrawf o'ch incwm, eich budd-daliadau a'ch cynilion er mwyn i'r cyngor allu pennu’n union beth y mae gennych hawl i'w gael.
Yn ogystal, bydd angen ichi ddarparu gwybodaeth am eich teulu ac eraill sy'n byw gyda chi gan y bydd hyn hefyd yn effeithio ar faint o fudd-dal y gallwch ei hawlio.
Canllaw yn unig yw'r wybodaeth hon ac ni fwriedir i’r canllaw grynhoi'r Ddeddfwriaeth Budd-daliadau yn ei chyfanrwydd. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch yn uniongyrchol â'r Adain Fudd-daliadau.