English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 28/4/2011
Sut mae cael gwybodaeth am deithio ar y trên 

Dolennau cyswllt i wefannau eraill sy’n darparu gwybodaeth am drenau:

National Rail
Mae gwefan National Rail yn cael ei ddarparu’n annibynnol ar ran yr holl gwmnïau trenau ac arni gallwch gynllunio’ch teithiau; darllen y 'Byrddau Ymadael Byw', sef byrddau ymadael pob un o orsafoedd National Rail yn y wlad; gwybodaeth am newidiadau i wasanaethau; Cyfeiriadur o Gwmnïau Trenau; cynigion arbennig a gwybodaeth ddefnyddiol arall am drenau.

http://www.nationalrail.co.uk

Trenau Arriva Cymru
Mae gwefan Trenau Arriva Cymru “…yn llawn gwybodaeth am docynnau ac amserlenni – ynghyd â llu o awgrymiadau i wneud eich taith yn fwy pleserus".  Ar y safle mae gwybodaeth am deithiau gyda Threnau Arriva Cymru yn ogystal â gwybodaeth am amserlenni a chyfle i brynu tocynnau ar y we.

http://www.arrivatrainswales.co.uk

 
First Great Western
First Great Western sy’n darparu’r gwasanaeth Intercity rhwng Abertawe a Chaerfyrddin ac Abergwaun. 

www.firstgreatwestern.co.uk
 
Rheilffordd Calon Cymru
Defnyddiwch y wefan hon i ganfod hud Calon Cymru.  Yma cewch wybodaeth am Reilffordd Calon Cymru a sut i deithio ar y trên bach a chael cyfle i ymlacio wrth iddo fynd â chi drwy ffresni cefn gwlad a’i afonydd croyw.  Ar y wefan mae gwybodaeth am y rheilffordd, newyddion, cyfle i chi chwilio am lety, ‘taith dywys’ ar hyd y lein a llawer mwy.

http://www.heart-of-wales.co.uk

 
Cymdeithas Teithwyr Rheilffordd Calon Cymru
Ffurfiwyd y grŵp hwn yn 1981 i gefnogi Rheilffordd Calon Cymru er mwyn ceisio hybu mwy o ddefnydd o’r rheilffordd a bod yn un llais ar gyfer pob un sydd am weld y rheilffordd werthfawr hon yn cael ei chadw. Mae pobl o bob rhan o Brydain a thu hwnt yn aelodau o’r gymdeithas.  Maen nhw’n rhoi cyhoeddusrwydd iddi drwy daflenni a hysbysebu a thrwy werthu nwyddau hyrwyddo ac maent yn annog ac yn trefnu gweithgareddau sy’n debygol o ddenu pobl i ddefnyddio’r lein.  Ar y wefan cewch wybodaeth am y gymdeithas a sut i ymaelodi â hi, a manylion am y rheilffordd, teithiau cerdded, a llefydd i ymweld â nhw.

http://www.howlta.org.uk

 
Pas Darganfod Cymru
Un tocyn yw Pas Darganfod Cymru sy’n rhoi rhyddid i chi ddefnyddio holl wasanaethau trên Cymru a bron pob gwasanaeth bws.  Bydd deiliaid tocynnau hefyd yn cael ystod wych o fanteision eraill gan gynnwys mynediad “dau am bris un” neu ostyngiad ar brisiau mynediad i lawer o brif atyniadau Cymru.  Ar y wefan mae gwybodaeth am y mathau gwahanol o bas fflecsi a gallwch hyd yn oed brynu eich pas ar y we.  Mae yno hefyd fanylion am y gwahanol atyniadau ymwelwyr, llefydd i aros a theithiau posib i sicrhau eich bod yn defnyddio’r pas i’r eithaf.

http://www.walesflexipass.com

 
Network Rail
Cwmni peirianneg yw Network Rail a ffurfiwyd i adfywio rheilffyrdd Prydain.  Nhw sy’n cynnal, gwella ac yn uwchraddio pob agwedd ar y seilwaith reilffyrdd gan gynnwys y trac, y systemau signalau, twnelau, y croesfannau, y gorsafoedd etc.  Nid ydynt yn darparu gwasanaethau trên; eu prif gwsmeriaid sef y cwmnïau trên a chludo nwyddau sy’n gwneud hynny.  Ar eu gwefan mae gwybodaeth am y cwmni, y gwaith peirianneg a phrosiectau, rheoli’r seilwaith, cyfrifoldeb corfforaethol ac ati.

http://www.networkrail.co.uk

 
Manylion Cysyllt
 
Travel Line Cymru