Railtrack plc sy’n berchen ar y rhwydwaith trenau a’r seilwaith sy’n gwasanaethu’r sir. Mae’n cynnwys Rheilffyrdd Gorllewin Cymru, sy’n teithio o Abertawe drwy Sir Gaerfyrddin i Abergwaun, Aberdaugleddau a Doc Penfro a Rheilffordd Calon Cymru sy’n teithio o Abertawe i’r Amwythig drwy Sir Gaerfyrddin.
Ar hyn o bryd Wales & Borders Trains sy’n darparu gwasanaethau trên ar Reilffyrdd Gorllewin Cymru a Rheilffordd Calon Cymru ac mae’r gwasanaethau Intercity rhwng Abertawe a Chaerfyrddin ac Abergwaun yn cael eu darparu gan First Great Western.
Rheilffyrdd Gorllewin Cymru
Mae Rheilffyrdd Gorllewin Cymru yn cynnig gwasanaethau hirbell o safon uchel gan gysylltu Gorllewin Cymru â phrif drefi a dinasoedd y DU. Maent yn gyfle gwych i deithio i’r gwaith ac maent hefyd yn darparu teithiau cyson i wahanol atyniadau ymwelwyr a mannau o ddiddordeb yn yr ardal leol.
Rheilffordd Calon Cymru
Mae Rheilffordd Calon Cymru yn ffefryn ymhlith rheilffyrdd gwledig Prydain. Am 120 o filltiroedd rhwng yr Amwythig ac Abertawe, mae’r trên yn eich cludo drwy rai o fannau gwledig prydferthaf a glanaf y wlad. Mae’r rheilffordd droellog hon, a gaiff ei defnyddio gan bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd, yn cynnwys tri chopa, dwy draphont fawr a saith twnnel. Mae’r ardal yn adnabyddus am ei theithiau cerdded gwych, ei chyfleoedd i wylio adar a physgota a chroeso gwresog cwbl Gymreig.