English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 19/8/2011
Cynllun Allwedd RADAR Cenedlaethol 

Mae'r Cynllun Allwedd Cenedlaethol (NKS) yn cynnig mynediad annibynnol i bobl anabl i tua 9,000 o doiledau cyhoeddus sy'n cael eu cloi ar draws y wlad.

Gall unrhyw un sydd ag anabledd parhaol brynu’r allwedd.  Bydd angen ichi ddod â thystiolaeth i gefnogi hyn.

Mae enghreifftiau o dystiolaeth addas yn cynnwys; Bathodyn Parcio Glas, llythyr oddi wrth ysbyty neu feddyg teulu, llythyr yn cyfeirio at dalu Lwfans Byw i'r Anabl neu fudd-dal anabledd arall.

Hefyd mae angen llenwi ffurflen, a gellir ei lawrlwytho hi ymlaen llaw o'r wefan hon. Yn anffodus ni allwn dderbyn y ffurflen hon drwy e-bost oherwydd bod yn rhaid cael llofnod arni. A fyddech cystal ag argraffu'r ffurflen, ei harwyddo hi a dod â hi gyda chi pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais. Fel arall, gellir cael ffurflenni o unrhyw un o'n canolfannau gwasanaeth cwsmeriaid a restrir isod.

Gellir prynu allwedd yn bersonol neu gall rhywun brynu un ar eich rhan yn ein canolfannau gwasanaeth cwsmeriaid. Os oes rhywun yn codi allwedd ar eich rhan, bydd angen iddo/iddi ddod â'ch ffurflen wedi'i chwblhau ynghyd â thystiolaeth i brofi ei fod/bod yn gweithredu ar eich rhan chi.

Ar hyn o bryd, cost allweddi RADAR ar gyfer pobl anabl yw £3.90.  Wrth ddatgan bod gennych anabledd, does dim angen ichi dalu TAW.

Gellir prynu allweddi yn y mannau canlynol:

3 Heol Spilman
Caerfyrddin
SA31 1LE

Tŷ Elwyn
Llanelli
SA15 3AP

Swyddfeydd y Cyngor
25 Heol Cilgant
Llandeilo
SA19 6HW

Neuadd y Dref
Heol Iscennen
Rhydaman
SA18 3BE

Cysylltwch â Galw Sir Gâr drwy ffonio 01267 234567 neu drwy e-bostio galw@sirgar.gov.uk