English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 13/11/2012
Gwaith Cynnal a Chadw yn ystod y Gaeaf  

Mae dros £1 filiwn yn cael ei wario ar waith cynnal a chadw dros y gaeaf ar gefnffyrdd a phriffyrdd yn y sir.

Taenir halen pan fo perygl iâ, a chaiff eira ei glirio yn ystod tywydd garw. 

Cynllunnir y gwasanaeth er mwyn sicrhau bod modd gyrru mor ddiogel â phosibl yn Sir Gaerfyrddin pan fydd y tywydd yn wael iawn. Mae 3,256 o gilometrau o ffyrdd yn Sir Gaerfyrddin a chaiff oddeutu 27% ohonynt eu trin pan fydd y tywydd yn galw am hynny.

Y Ffeithiau

Bydd cerbydau graeanu'n trin oddeutu 27% o ffyrdd y sir pan fydd angen.

Hefyd bydd staff ar gael wrth gefn 24 awr y diwrnod, saith diwrnod yr wythnos i ymateb i newidiadau yn y tywydd a'r amgylchiadau ar y ffyrdd.

Mae 935 cilometr o ffyrdd yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu trin â halen cyn pen tair awr ar ôl derbyn rhybudd o dywydd gwael.

Rhoddir y brif flaenoriaeth i gefnffyrdd a phrif lwybrau: mae'r rhain yn cynnwys ffyrdd sy'n arwain at ysbytai, gorsafoedd ambiwlans, gorsafoedd trên, garejis bysiau, llwybrau bysiau pwysig, ffyrdd ymuno, a mannau y gwyddys eu bod yn drafferthus.

Mewn tywydd eithafol, rhoddir yr ail flaenoriaeth i strydoedd lle mae siopau, mannau lle mae trafferthion a damweiniau'n fynych (nad ydynt ar y llwybrau a gaiff brif flaenoriaeth), a llwybrau bysiau eraill.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penodi Cyngor Sir Caerfyrddin yn Asiant Cefnffyrdd yn Ne-orllewin Cymru ac mae'r holl gefnffyrdd yn cael eu trin pan fydd y tywydd gaeafol yn galw am hynny. Mae'r Cyngor Sir yn darparu gwasanaeth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, i ymateb i newidiadau cyson yn y tywydd a chyflwr y ffyrdd

Pryd mae'r Cyngor Sir yn gwasgaru halen ar y priffyrdd?  

Mae'r Adran yn derbyn gwybodaeth gyson o MeteoGroup UK ac mae'n paratoi i daenu graean os rhagwelir y bydd cyflwr y ffyrdd yn wael. Hefyd mae'r Adran yn gallu cadw golwg ar y data a gesglir gan orsafoedd tywydd maes sydd wedi eu gosod ar Briffyrdd a Chefnffyrdd yn Ne-orllewin Cymru.

Ar ôl penderfynu taenu halen ar y ffyrdd, bydd oddeutu 935 cilometr yn cael eu trin cyn pen 3 awr fel rheol. NID YW POB ffordd yn cael sylw. Os bydd eira'n cwympo, bydd gwaith clirio eira'n cael ei wneud ym mhob rhan o'r sir.

Adnoddau

Yn ystod y gaeaf mae'n rhaid i Is-adran Priffyrdd Cyngor Sir Caerfyrddin gynnal fflyd fawr o gerbydau arbenigol a gyrwyr a gafodd hyfforddiant arbenigol i wasanaethu'r ffyrdd sy'n flaenoriaeth. Mae ganddo gyflenwad o 16,500 o dunelli metrig o halen ac mae'r rhan fwyaf ohono wedi'i storio dan do mewn Ysguboriau Halen.

 
Manylion Cysyllt
 
Caerfyrddin - 01267 225800
Glanaman - 01267 598351
Llanelli - 01554 742147