Gall Tystysgrif Hepgor gael ei rhoi yn ôl disgresiwn y Cyngor, er mwyn caniatáu i gerbyd penodol aros yn y ffordd neu mewn lle parcio yn ystod oriau gweithredu unrhyw gyfyngiad neu waharddiad mewn perthynas â hynny.
Pan fo gollyngiad yn ofynnol bydd yn rhaid cyflwyno cais ysgrifenedig a hynny dri diwrnod cyn y dyddiad y dymunir iddo ddod i rym.
Bydd y Dystysgrif Hepgor yn cynnwys manylion penodol am y math o le parcio a'r lleoliad. Mae'n rhaid bod y cerbyd yn cael ei barcio fel nad yw'n achosi perygl i gerddwyr nac i ddefnyddwyr ffyrdd eraill, fel nad yw'n rhwystro pobl rhag gweld wrth gyffyrdd, fel nad yw'n atal mynediad, ac fel nad yw'n amharu ar lif y traffig.
Gellir canslo tystysgrif hepgor unrhyw bryd yn ôl disgresiwn y Cyngor. Caiff y sawl dan sylw ei hysbysu ynghylch hyn yn ysgrifenedig.
Fel rheol ni roddir gollyngiadau ar gyfer parcio:
- Mewn arosfannau bysiau
- Mewn safleoedd tacsis
- Mewn llefydd parcio i ddoctoriaid
- Mewn llefydd parcio i bobl anabl
- Mewn llefydd lle mae gwaharddiad ar lwytho/dadlwytho
- Ar bafinau
Sut mae gwneud cais
Cliciwch yma am ffurflen arlein
Cwblhewch y ffurflen amgaeedig a'i hanfon drwy:
- neges e-bost at: parcio@sirgar.gov.uk
- neges ffacs at y rhif hwn: 01267 238378
- y post at: Y Gwasanaethau Parcio, Blwch Post 90, Caerfyrddin. SA31 3WR
- Fel arall, ewch i un o'r Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid:
- Caerfyrddin – Swyddfeydd y Cyngor, 3 Heol Spilman, Caerfyrddin
- Rhydaman - Swyddfeydd y Cyngor, Heol Iscennen, Rhydaman
- Llanelli – Swyddfeydd y Cyngor, Tŷ Elwyn, Llanelli
Caiff y dystysgrif ei hanfon naill ai drwy'r post, drwy'r e-bost neu drwy'r peiriant ffacs fel y bo'r gofyn.