English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 07/1/2011
Awgrymiadau Gyrru yn y Gaeaf 

Mae angen cymryd gofal arbennig a pharatoi wrth yrru yn y gaeaf os ydych am osgoi torri i lawr neu ddamwain. Dyma rai cynghorion syml i helpu gyrwyr i wneud eu teithiau mor ddiogel ag y bo modd yn ystod y tywydd oer.

1. Gofalwch am eich Cerbyd:

  • Sicrhewch fod eich cerbyd yn cael ei gynnal a'i gadw/wedi cael gwasanaeth a bod gennych chi ddigon o fatri. Mae'n rhaid i'ch batri chi weithio'n galetach yn y gaeaf (gweithio'r golau a'r sychwyr ffenestri er enghraifft) a gallant fethu'n llwyr heb unrhyw rybudd.
  • Gofalwch fod digon o ddyfnder yng ngwadnau'r teiars a'u bod nhw â'r swm cywir o wynt ynddynt (gan gynnwys y teiar sbâr).
  • Sicrhewch fod y system oeri yn cynnwys gwrthrewydd o'r cryfder cywir.
  • Gwnewch yn siŵr fod eich sychwyr a'ch golchwyr ffenestri yn gweithio'n iawn - mewn tymheredd oer, defnyddiwch olchydd sgrin cryf iawn. 
  • Gofalwch fod eich goleuadau'n lân ac yn gweithio.

2. Byddwch yn wyliadwrus o ran y tywydd:

  • Gwyliwch y teledu lleol a chenedlaethol yn ogystal â'r radio o ran gwybodaeth ynghylch teithio a'r tywydd.
  • Sicrhewch fod ffenestri, drychau a goleuadau eich cerbyd yn glir rhag niwl, rhew ac eira. Mae eira ac iâ yn lleihau'r hyn rydych chi'n ei weld ac yn gallu bod yn beryglus i ddefnyddwyr ffyrdd eraill wrth iddo gwympo oddi ar eich cerbyd.

3. Mewn tywydd eithafol megis eira'n syrthio:

  • Gofynnwch, a ydy'ch siwrnai yn angenrheidiol?
  • Gwnewch yn siŵr fod gennych chi lond tanc o danwydd.
  • Rhowch wybod i rywun i ble rydych chi'n mynd a'r amser y mae disgwyl ichi gyrraedd.
  • Ewch â'ch ffôn symudol gyda chi os oes un gennych chi ond cofiwch y gallech chi dorri i lawr mewn ardal heb signal felly ewch â dillad cynnes llachar, diodydd poeth, bwyd, esgidiau, tortsh a rhaw hefyd - gallai fod yn daith hir ar droed i gyrraedd ffôn.

4. Os ydych chi allan ar y ffyrdd mewn amodau gwael:

  • Defnyddiwch y prif ffyrdd sydd wedi cael eu graeanu cymaint ag sydd yn bosibl - edrychwch ar wefan y cyngor i gael rhagor o wybodaeth.
  • Cofiwch ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer eich siwrnai
  • Ceisiwch osgoi cyfnodau prysur er mwyn lleihau tagfeydd.

5. Yn gyffredinol, pan rydych chi'n gyrru mewn tywydd gaeafol:

  • Gyrrwch yn unol â'r amodau - ar ffyrdd sydd wedi'u trin a rhai sydd heb gael eu trin.
  • Cofiwch leihau eich cyflymder pan nad ydych chi'n gweld yn glir, pan fo eira neu os oes iâ.
  • Defnyddiwch y gêr uchaf posibl er mwyn helpu i gadw'ch cerbyd o dan reolaeth a cheisiwch osgoi brecio a chyflymu'n sydyn.
  • Ceisiwch gadw pellter brecio mwy diogel. Mae wyneb ffordd gwlyb yn golygu y bydd hi'n cymryd ddwywaith mor hir ichi stopio felly mae angen ichi fod o leiaf pedair eiliad y tu ôl i'r cerbyd o'ch blaen.
  • Defnyddiwch eich prif oleuadau wedi'u gostwng lle na ellir gweld yn glir ac yn yr eira, er mwyn i eraill allu'ch gweld chi.
  • Defnyddiwch oleuadau niwl cefn lle na ellir gweld yn glir ond cofiwch ddiffodd y goleuadau niwl pan fo amodau'n gwella.
  • Gofalwch am ddefnyddwyr ffordd eraill gan gynnwys beiciau, beiciau modur, cerddwyr a phlant a allai fod yn cael anawsterau yn y fath dywydd.
  • Bydd rhai mannau anghysbell ac arwyneb y ffordd ar raddiant penodol yn parhau'n rhewllyd pan fo'r rhannau eraill wedi dadlaith - mae angen ichi fod yn wyliadwrus o'r mannau hyn.

6. Os ydych chi'n torri i lawr:

  • Os ydych chi'n mynd i drafferth, arhoswch gyda'ch cerbyd os yw hynny'n bosibl, hyd nes y bydd cymorth yn cyrraedd.
  • Os oes yn rhaid ichi adael eich cerbyd, gwnewch yn siŵr fod eraill yn gallu'ch gweld chi.
  • Os oes yn rhaid ichi adael eich cerbyd, rhowch y manylion i'r heddlu lleol a pharciwch yn ddiogel er mwyn osgoi achosi rhwystr i gerbydau cynnal a chadw megis erydr eira wrth iddynt geisio trin y ffyrdd.

7. Cyngor ar gyfer tywydd penodol:

Niwl

  • Mae niwl yn beryglus yn enwedig yn yr Hydref a'r Gaeaf ac mae'n un o brif achosion gwrthdrawiadau.
  • Arafwch, cadwch eich pellter a chynnwch eich golau mewn niwl. 
  • Gyrrwch yn araf iawn gan ddefnyddio'r prif oleuadau wedi'u gostwng. Defnyddiwch oleuadau niwl os yw gwelededd wedi lleihau'n ddifrifol ond cofiwch eu diffodd nhw pan fo gwelededd yn gwella.
  • Peidiwch â chadw'n rhy agos at oleuadau cefn y cerbyd o'ch blaen - mae hyn yn rhoi synnwyr diogelwch ffug ichi.
  • Peidiwch â chyflymu'n sydyn - hyd yn oed os yw'n ymddangos fel petai'n clirio, mae'n bosibl y byddwch chi'n mynd i ganol niwl trwchus eto.

Iâ, Eira a Slwtsh

  • Gall iâ, eira a slwtsh leihau gallu eich teiars yn sylweddol o ran cael gafael ar y ffordd sy'n golygu fod arafu, cyflymu, neu newid cyfeiriad i gyd yn fwy peryglus. Y gamp wrth yrru mewn amodau o'r fath yw bod mor llyfn â phosibl.
  • Gyrrwch yn araf a chofiwch ganiatáu lle ychwanegol i arafu ac i stopio.
  • Mae'n gallu cymryd deg gwaith mor hir i stopio mewn iâ nag ar ffordd sych.
  • Defnyddiwch y gêr uchaf posibl er mwyn atal yr olwynion rhag troelli, symudwch yn ofalus a cheisiwch osgoi brecio a chyflymu'n sydyn.
  • Er mwyn brecio ar iâ ac eira heb gloi eich olwynion, dewiswch gêr isel yn gynt na'r arfer a chofiwch ganiatáu i'ch cyflymder ddisgyn a defnyddiwch y brêc yn ofalus.  
  • Os ydych chi'n sgidio, tynnwch eich troed oddi ar y sbardun ond peidiwch â brecio'n sydyn.
  • Mae'n well osgoi sgidio yn hytrach na gobeithio y gallwch chi gadw rheolaeth ar y sgid pan mae'n digwydd.

Llifogydd

Mae'n well peidio â mynd i lifddwr o gwbl - os oes modd ichi fynd ar ffordd arall, gwnewch hynny.

Os ydych chi'n mynd i ganol llifogydd:

  • Gyrrwch yn araf yn y gêr cyntaf ond ceisiwch gadw cyflymder yr injan yn uchel drwy slipio'r clytsh - bydd hyn yn atal y cerbyd rhag nogio.
  • Ewch drwy'r dŵr un cerbyd ar y tro.
  • Ceisiwch osgoi'r dŵr dyfnaf sydd fel arfer yn agosach i'r cwrbyn. Peidiwch â cheisio croesi'r dŵr os yw'n ymddangos yn rhy ddwfn - cofiwch am eraill.
  • Cofiwch - profwch eich breciau ychydig o weithiau ar ôl ichi fynd drwy'r dŵr cyn ichi yrru ar gyflymder arferol.

Ffynhonnell - Systemau Gyrru Rhyngweithiol

 
Manylion Cysyllt
 

 

Uned Diogelwch Ffyrdd
Adran Gwasanaethau Technegol
Parc Myrddin
Heol Waun Dew
Caerfyrddin
SA31 1HQ

Ffôn: 01267 228284
Ebost: DiogelwchFfyrdd@sirgar.gov.uk