Trefnu Lle ac Amser
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Trefnu Lle ac Amser 

Yn ddelfrydol mae angen i chi drefnu eich lleoliad a phresenoldeb y Cofrestrydd ar yr un adeg neu mae'n bosibl na fydd y ddau ar gael yr un pryd. Penderfynwch ar eich lleoliad yn gyntaf ac yna trefnu eich dyddiadau dros y ffôn. Ffoniwch y Cofrestrydd Arolygol sy'n gweinyddu priodasau yn eich dewis leoliad gyda rhai awgrymiadau ar gyfer amserau a dyddiadau ychydig cyn i chi siarad â'ch lleoliad a bydd modd cadarnhau'r cyfan o fewn ychydig funudau.

Mae'r Cofrestrydd Arolygol yno i'ch helpu ac i'ch arwain a bydd yn ceisio ateb cymaint o gwestiynau ag sy'n bosibl. Gellir gwneud trefniant dros dro hyd at ddeuddeng mis ymlaen llaw ond ni all hwn fod yn drefniant cadarn nes i chi roi 'Hysbysiad am Briodas' ffurfiol.

Faint ymlaen llaw caf i wneud trefniant?

Mae hysbysiad am briodas yn ddilys am ddeuddeng mis. Ni chewch felly roi hysbysiad am briodas i'r cofrestrydd arolygol fwy na deuddeng mis cyn dyddiad eich priodas. Fodd bynnag, efallai y gallwch wneud trefniant (dros dro) ymlaen llaw gyda chofrestrydd arolygol y rhanbarth lle rydych yn dymuno priodi. Bydd y cofrestrydd arolygol yn gallu rhoi gwybodaeth fwy manwl gywir i chi ynghylch hyn.

Lle mae trefniant ymlaen llaw ar gyfer priodas wedi'i wneud, mae'n hanfodol bod hysbysiad ffurfiol yn cael ei roi i'r cofrestrydd arolygol, unwaith y gallwch wneud hyn yn gyfreithiol. Mae gan swyddogion cofrestru ddyletswydd statudol i hysbysu ynghylch unrhyw briodas y maent yn amau ei bod wedi'i threfnu yn unswydd er mwyn osgoi'r rheolaeth statudol ar fewnfudo.

 


Tudalen wedi ei diweddaru ar 29/10/2008