English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Trefniadau Cyfreithiol 

Oni bai eich bod yn priodi yn Eglwys Lloegr neu'r Eglwys yng Nghymru trwy Ostegion neu Drwydded Gyffredin, rhaid rhoi hysbysiad am briodas yn bersonol i'ch cofrestrydd(ion) arolygol lleol.

Rhaid rhoi Hysbysiad am Briodas trwy Dystysgrif Cofrestrydd Arolygol.
Rhaid rhoi hwn yn unigol yn y Swyddfa Gofrestru yn y rhanbarth yr ydych yn byw ynddo. Bydd ffi o £30.00 am bob hysbysiad.

Pan rydych yn barod i roi eich hysbysiad am briodas, nid yw apwyntiad yn angenrheidiol ond gallai fod yn syniad da ffonio'r swyddfa i sicrhau nad yw'r Cofrestrydd Arolygol wedi'i alw allan i briodas.

* Bydd angen i chi ddod â chopi o'ch tystysgrif geni, bil cyfleustod, neu os ydych wedi bod yn briod o'r blaen neu os ydych yn weddw, naill ai'r archddyfarniad absoliwt neu dystysgrif marwolaeth eich priod. *

Rhaid bod y ddau ohonoch wedi byw mewn rhanbarth cofrestru yng Nghymru neu Loegr ers o leiaf saith niwrnod yn union cyn rhoi hysbysiad yn y swyddfa gofrestru. Os yw'r ddau ohonoch yn byw yn yr un rhanbarth, dylai'r ddau ohonoch fynd i'ch swyddfa gofrestru leol gyda'ch gilydd i roi eich hysbysiadau am briodas. Os ydych yn byw mewn rhanbarthau cofrestru gwahanol yna bydd angen i'r ddau ohonoch roi hysbysiad ar wahân yn eich rhanbarth ei hun.

Ar ôl rhoi hysbysiad rhaid i chi aros pymtheng niwrnod clir arall cyn y gall y briodas ddigwydd, (er enghraifft, os rhoddir hysbysiad ar 1 Gorffennaf, caiff y briodas ddigwydd ar neu ar ôl 17 Gorffennaf).

 


Tudalen wedi ei diweddaru ar 29/10/2008