Ble a Phryd i Gofrestru Genedigaeth
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Ble a Phryd i Gofrestru Genedigaeth 

Rhaid cofrestru pob genedigaeth yng Nghymru neu Loegr yn y rhanbarth lle mae'n digwydd o fewn 42 diwrnod i ddyddiad yr enedigaeth. Rhoddir y wybodaeth ar gyfer y cofrestru i'r cofrestrydd gan y person sy'n cofrestru'r enedigaeth. Bydd y wybodaeth, a gofnodir ar gyfrifiadur fel arfer, hefyd yn cael ei chofnodi yn y gofrestr genedigaethau ac mae'r person sy'n cofrestru'r enedigaeth yn llofnodi'r cofnod.

Os yw'n anghyfleus i fynd i'r rhanbarth lle digwyddodd yr enedigaeth, gellir rhoi'r wybodaeth ar gyfer y cofrestru i gofrestrydd mewn rhanbarth arall. Bydd y cofrestrydd yn cofnodi manylion y cofrestru ar ffurflen datganiad a'i hanfon at y cofrestrydd ar gyfer y rhanbarth lle digwyddodd yr enedigaeth. Bydd y cofrestrydd sy'n derbyn y datganiad yn cofnodi'r wybodaeth yn y gofrestr genedigaethau. Bydd y cofrestrydd ar gyfer y rhanbarth lle digwyddodd yr enedigaeth yn postio tystysgrifau o'r enedigaeth. Gellir archebu a thalu am y rhain ar adeg gwneud y datganiad.

Nid oes angen mynd â'r baban i swyddfa'r cofrestrydd i ddangos bod yr enedigaeth wedi digwydd. Bydd yr awdurdod iechyd lleol neu'r ysbyty lle digwyddodd yr enedigaeth yn hysbysu'r cofrestrydd am yr enedigaeth.

 


Tudalen wedi ei diweddaru ar 29/10/2008