Mae'r dudalen hon yn rhoi i chi'r wybodaeth y mae'n rhaid ei rhoi i'r cofrestrydd ar gyfer y cofrestru:
Y plentyn
- dyddiad a man geni; os mai genedigaeth efeilliaid, tripledi ac yn y blaen yw hon, bydd angen amser geni pob plentyn hefyd
- rhyw y plentyn
- yr enw(au) cyntaf a'r cyfenw y'u bwriedir ar gyfer magu'r plentyn
Y tad (lle mae'r wybodaeth hon i'w chofnodi yn y gofrestr)
- enw(au) cyntaf a chyfenw
- dyddiad a man geni
- ei waith ar adeg geni'r plentyn neu, os nad oedd yn gyflogedig yr adeg honno, ei waith diwethaf
Y fam
- enw(au) cyntaf a chyfenw
- cyfenw morwynol os yw'r fam yn briod neu os bu hi'n briod
- dyddiad a man geni
- ei gwaith ar adeg geni'r plentyn neu, os nad oedd yn gyflogedig yr adeg honno, ei gwaith diwethaf
- cyfeiriad arferol ar ddyddiad y geni
- dyddiad priodi, os yn briod â thad y plentyn ar adeg y geni
- nifer o blant blaenorol gyda'r gwr presennol a chyda unrhyw wr blaenorol
Mae'n bwysig iawn bod y wybodaeth a gofnodir yn y gofrestr genedigaethau yn gywir. Os gwneir unrhyw gamgymeriad, er enghraifft wrth sillafu enw neu gyfenw neu yn nisgrifiad gwaith y tad neu'r fam, bydd hyn yn achosi cryn drafferth i'r rhieni neu'r person arall a gofrestrodd yr enedigaeth. i'w gywiro. Dylai'r person sy'n cofrestru'r enedigaeth wirio'r wybodaeth sydd i'w chofnodi yn y gofrestr yn ofalus iawn cyn i'r cofnod gael ei lofnodi.
Os nad Saesneg yw mamiaith y fam neu'r tad a bod angen help wrth gofrestru'r enedigaeth, byddai o gymorth petai perthynas neu gyfaill yn dod gyda hwy i swyddfa'r cofrestrydd i gyfieithu. Fodd bynnag, rhaid i'r rhieni gofrestru'r enedigaeth yn bersonol gan na all perthynas na chyfaill gofrestru yn eu lle.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ynghylch cywiro manylion mewn cofrestriad geni.
Pa dystysgrifau a roddir?
Ar ôl cofrestru genedigaeth, rhoddir tystysgrif geni fer yn rhad ac am ddim sy'n dangos yr enw, y rhyw a dyddiad a rhanbarth y geni. Mae'r dystysgrif fer yn diwallu'r rhan fwyaf o anghenion ond mae tystysgrif geni lawn, sydd yn gopi cyflawn o gofnod y gofrestr, ar gael hefyd. Gellir prynu rhagor o dystysgrifau byr a thystysgrifau llawn ar adeg y cofrestru neu ar unrhyw adeg wedyn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ynghylch cael tystysgrifau.