Un o amcanion yr adain Grantiau Busnes a Grantiau Cymunedol yw cynorthwyo grwpiau i ddod o hyd i gyfleoedd cyllid allanol. Er mwyn helpu grwpiau i chwilio am gyllid yr ydym wedi tanysgrifio i Grantnet, sef gwasanaeth hawdd ei ddefnyddio a fydd yn eich helpu i nodi’r ffynonellau cyllid sydd ar gael ar gyfer eich prosiect penodol chi.
Grantnet
Unwaith y byddwch wedi cofrestru gyda Grantnet, anfonir cyfrinair atoch ar e-bost ac yna gallwch ddefnyddio hwnnw i gael mynediad i’r gwasanaeth. Ar ôl ichi fenwgofnodi ar y system bydd angen ichi ateb rhai cwestiynau syml am eich sefydliad a’r prosiect yr ydych yn dymuno ei gynnal. Yna bydd Grantnet yn rhoi braslun ichi o’r holl gynlluniau sydd ar gael.
Cliciwch yma i gael mynediad i Grantnet
Bydd yr hyn a roddwch chi i mewn a chanlyniadau’r chwiliad ar gael wedyn yn y Swyddfa Gymunedol ac ar eich cais chi gallant hwy roi gwybodaeth a chyfarwyddyd mwy manwl ichi am y cynlluniau priodol.