Nod 1 Gronfa yw ariannu prosiectau newydd ac arloesol fydd yn cyfrannu at ddatblygiad economaidd a chymdeithasol Sir Gaerfyrddin.
Ariennir y rhaglen ar y cyd gan: raglen Amcan 1, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin. Cyfanswm yr arian sydd ar gael ar gyfer talu grantiau yw £6 miliwn. Yn ôl rheoliadau Ewrop mae’r swm hwn wedi’i rannu yn £3.9 miliwn ar gyfer wardiau Blaenoriaeth 3 a £2.1 miliwn ar gyfer wardiau Blaenoriaeth 5.
Bydd y rhaglen grantiau yn cael ei rhedeg fel un gronfa. Fe all fod rhywfaint o wahaniaeth yn y math o brosiectau a ariennir yn dibynnu ar y swm o arian sydd ar gael ac ar flaenoriaethau’r ddwy ardal.