English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 31/1/2011
Marchnadoedd nwyddau 

 

Marchnadoedd Nwyddau

Mae'r Cyngor yn gweithredu marchnadoedd ledled Sir Gaerfyrddin, sy'n cynnig dewis eang o nwyddau, gan gynnwys caffis a stondinau sy'n gwerthu cig, pysgod, cawsiau arbenigol, nwyddau delicatessen, ffrwythau a llysiau ffres, dillad ffasiynol, hen bethau a llawer mwy.

Mae'r ddwy brif farchnad yng Nghaerfyrddin ac yn Llanelli yng nghanol y trefi, ac mae'r ddwy yn lleoedd diddorol lle ceir yr hen a'r newydd gyda'i gilydd.  Mae'r ddwy farchnad yn gyforiog o ddiwylliant Cymru, pentyrrau lliwgar o ffrwythau a llysiau ffres a stondinau yn gwerthu nwyddau defnyddiol a diddorol am brisiau rhesymol. Mae'r ddwy farchnad yn cynnig i siopwyr ddewis ac amrywiaeth aruthrol mewn man croesawgar a chyfeillgar.

Siopau a Marchnad Nwyddau Caerfyrddin

Mae Neuadd y Farchnad ar agor 6 diwrnod yr wythnos, ac mae marchnad awyr agored bob dydd Mercher a phob dydd Sadwrn. Mae Caerfyrddin yn dref hanesyddol, un na ddylai unrhyw ymwelydd golli'r cyfle i ymweld â hi. Y dref yw calon Sir Gaerfyrddin, ac mae ganddi gysylltiadau da ag arfordir Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.

Oriau agor:

Dydd Llun – Dydd Sadwrn:  9:00am – 5:00pm

I weld cynllun y farchnad a manylion y siopau, cliciwch yma

Neuadd y Farchnad Llanelli a'r siopau yng nghyffiniau'r farchnad

Yng nghanol y dref a lle mae digon o leoedd parcio y mae'r farchnad, sydd ar agor 6 diwrnod yr wythnos. Cynhelir marchnad ar y stryd bob dydd Iau a phob dydd Sadwrn. Ni chaniateir ceir yng nghanol y dref ac mae'n lle diogel i siopa, bwyta yn yr awyr agored, neu fynd am dro. Mae sinema a chanolfan hamdden yn y dref ac mae'n hawdd mynd oddi yno i Barc Arfordirol y Mileniwm. 

Oriau agor:

Dydd Llun – Dydd Sadwrn:  8:00am – 5:00pm

Y Farchnad Stryd yn Rhydaman

Cynhelir y farchnad bob dydd Gwener. Mae'n farchnad fach gyfeillgar ar gyrion canol y dref.

Marchnadoedd Awyr Agored Llandeilo a Llanymddyfri

Fe'u cynhelir bob dydd Gwener. Maent yn farchnadoedd bach a chyfeillgar mewn trefi hanesyddol a llawn bwrlwm.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Caerfyrddin a Llandeilo: Mr. Eifion Evans, Rheolwr Cynorthwyol y Marchnadoedd,                01267 228841

Llanelli a Rhydaman: Mr. Brian Fowler, Rheolwr Cynorthwyol y Marchnadoedd,                   01554 773984

 
Manylion Cysyllt
 

Caerfyrddin a Llandeilo 01267 228841

Llanelli a Rhydaman 01554 773984