Fel arfer mae'r Unedau Diwydiannol yn fwy na'r unedau gweithdy, a chaiff y rhan fwyaf eu gosod yn ôl cytundebau tenantiaeth misol neu chwarterol. Mae'r unedau hyn wedi cael eu datblygu i ddarparu ar gyfer y busnesau hynny sy'n symud allan o'r gweithdai a'r rhai hynny y mae angen safleoedd mwy arnynt.
I Mewn ac Allan: Yn yr un modd â'r unedau gweithdy, nid oes ffïoedd cyfreithiol i'w talu. Fodd bynnag, mae'r rhybudd y mae'n rhaid ei roi cyn dod â'r cytundebau tenantiaeth i ben yn hwy na'r cyfnod ar gyfer y trwyddedau, a chaiff ei drafod pan lunnir y cytundeb. Rhent (a TAW mewn rhai achosion) yn unig a godir ar denantiaid, sydd wedyn yn gwneud eu taliadau eu hunain o ran trethi annomestig cenedlaethol.