Ffermydd y Cyngor Sir
Mae Ystad Wledig Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnwys 30 daliad “ag offer” sy'n gyfanswm o 2,735 erw; mae 55% yn unedau llaeth i un dyn a'r 45% arall yn unedau eidion a defaid (nid gwartheg godro). Mae'r eiddo mewn grwpiau gweddol gyfleus mewn 4 prif ardal sef Llangadog (5), Llanarthne (4), Lacharn (4) a Sanclêr (5 a 1) ac mae'r 11 arall ar wasgar yn y Sir.
Daliadau tir gwag / Tenantiaethau Amaethyddol
Mae 12 darn tir ger Sanclêr, Llansteffan, Llanymddyfri, Llanddowror, Llangeler, Pen-boyr, Pen-bre, Cydweli, Pontyberem a'r Pwll sef cyfanswm o ryw 588 erw. Nid yw'r rhain yn cynnwys tai nac adeiladau ac fe'u gosodir yn bennaf i helpu ffermydd eraill i ehangu eu busnesau.
Tenantiaethau Pori
Mae oddeutu 257 erw o dir anweithredol yn cael ei osod yn y tymor byr ar ffurf trwyddedau pori a hynny mewn oddeutu 47 man ledled y Sir. Mae'r mwyafrif yn ardaloedd Caerfyrddin/Llanelli/Dyffryn Aman ac yn gyffredinol, glaswelltir o ansawdd gwael ydynt sy'n bennaf yn addas i geffylau.
Hawliau Pysgota
Mae hawliau pysgota mewn 2 le ar Afon Taf ac mewn un lle ar Afon Tywi lle gosodir darnau i glybiau lleol sy’n pysgota â gwialen.
Coetiroedd
Yn ogystal, mae'r ystad yn cynnwys oddeutu 100 erw o goetir cymysg ac mae'r prif ddarnau yn Llangadog, Llanarthne a Lacharn.