Gostyngiad Gorfodol
Mae elusennau a rhai cyrff nad ydynt yn gwneud elw â'r hawl i gael 80% o `Ostyngiad Gorfodol' ar drethi unrhyw eiddo annomestig a ddefnyddir yn gyfangwbl neu'n bennaf at ddibenion elusennol.
Bydd elusennau cofrestredig yn gymwys i dderbyn gostyngiad yn awtomatig.
Nid yw'r ffaith nad yw corff wedi'i gofrestru yn elusen yn golygu nad oes hawl ganddo dderbyn y gostyngiad. Fodd bynnag, rhaid i'r corff ddangos rheswm da pam fod hawl ganddo dderbyn y gostyngiad.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n ysgwyddo cost y math hwn o ostyngiad, nid yr Awdurdod.
Gostyngiad Dewisol
Gostyngiad tebyg i'r uchod yw hwn lle mae'r hawl gan y Cyngor i ostwng y bil treth i rai cyrff a mudiadau.
Yn wahanol i'r gostyngiad gorfodol, mae'r Cyngor yn ysgwyddo rhywfaint o gost y math hwn o ostyngiad.
Gall elusennau sy'n gymwys i dderbyn Gostyngiad Gorfodol o 80% fod yn gymwys hefyd i dderbyn 20% arall o Ostyngiad Dewisol. Gall cyrff eraill nad ydynt yn gwneud elw fod yn gymwys i dderbyn hyd at 60% o Ostyngiad Dewisol.
Mae'r Cyngor yn gweithredu'r polisi canlynol o ran gostyngiad gorfodol a dewisol. Fodd bynnag nid yw'r rhestr hon yn ddiffiniol gan y penderfynir ar bob achos yn ôl ei haeddiant.
|
Neuaddau pentref, canolfannau cymunedol etc. |
80% |
20% |
|
Adeiladau a ddefnyddir at ddibenion addysgol |
80% |
Dim |
|
Clybiau ac adeiladau a ddefnyddir at ddibenion hamdden |
80% |
Dim |
|
Adeiladau a ddefnyddir at ddiben 'lles cymdeithasol': • Lle lleolir hwy mewn prif ganolfan siopa • Lle lleolir hwy y tu allan i brif ganolfan siopa |
80% 80%
|
Dim 20%
|
|
|
|
Cyrff eraill nad ydynt yn gwneud Elw |
Gostyngiad Gorfodol |
Gostyngiad Dewisol |
|
Lle mae'r adeiladau yn drwyddedig: • Ardal y bar • Gweddill yr adeilad |
Dim Dim
|
Dim 60%
|
|
Adeiladau eraill (heblaw am rai trwyddedig) |
Dim |
60% |