English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Elusennau a Chyrff nad ydynt yn gwneud Elw 

Gostyngiad Gorfodol

Mae elusennau a rhai cyrff nad ydynt yn gwneud elw â'r hawl i gael 80% o `Ostyngiad Gorfodol' ar drethi unrhyw eiddo annomestig a ddefnyddir yn gyfangwbl neu'n bennaf at ddibenion elusennol.

Bydd elusennau cofrestredig yn gymwys i dderbyn gostyngiad yn awtomatig.

Nid yw'r ffaith nad yw corff wedi'i gofrestru yn elusen yn golygu nad oes hawl ganddo dderbyn y gostyngiad. Fodd bynnag, rhaid i'r corff ddangos rheswm da pam fod hawl ganddo dderbyn y gostyngiad.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n ysgwyddo cost y math hwn o ostyngiad, nid yr Awdurdod.

Gostyngiad Dewisol

Gostyngiad tebyg i'r uchod yw hwn lle mae'r hawl gan y Cyngor i ostwng y bil treth i rai cyrff a mudiadau.

Yn wahanol i'r gostyngiad gorfodol, mae'r Cyngor yn ysgwyddo rhywfaint o gost y math hwn o ostyngiad.

Gall elusennau sy'n gymwys i dderbyn Gostyngiad Gorfodol o 80% fod yn gymwys hefyd i dderbyn 20% arall o Ostyngiad Dewisol. Gall cyrff eraill nad ydynt yn gwneud elw fod yn gymwys i dderbyn hyd at 60% o Ostyngiad Dewisol.

Mae'r Cyngor yn gweithredu'r polisi canlynol o ran gostyngiad gorfodol a dewisol. Fodd bynnag nid yw'r rhestr hon yn ddiffiniol gan y penderfynir ar bob achos yn ôl ei haeddiant.

 

Corff Elusennol

Gostyngiad
Gorfodol

Gostyngiad
Dewisol

Neuaddau pentref, canolfannau cymunedol etc.

80%

20%

Adeiladau a ddefnyddir at ddibenion addysgol

80%

Dim

Clybiau ac adeiladau a ddefnyddir at ddibenion hamdden

80%

Dim

Adeiladau a ddefnyddir at ddiben 'lles cymdeithasol':
    • Lle lleolir hwy mewn prif ganolfan siopa
    • Lle lleolir hwy y tu allan i brif ganolfan siopa


80%
80%


Dim
20%

 

Cyrff eraill nad ydynt yn gwneud Elw

Gostyngiad
Gorfodol

Gostyngiad
Dewisol

Lle mae'r adeiladau yn drwyddedig:
    • Ardal y bar
    • Gweddill yr adeilad


Dim
Dim


Dim
60%

Adeiladau eraill (heblaw am rai trwyddedig)

Dim

60%

  


Tudalen wedi ei diweddaru ar 03/11/2008