Trethi Annomestig Cenedlaethol
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Trethi Annomestig Cenedlaethol 

Beth yw Trethi Annomestig Cenedlaethol?

Tâl yw Trethi Annomestig Cenedlaethol (TAC neu Drethi Masnachol) a godir ar eiddo masnachol ac a gesglir gan yr Awdurdod Lleol ers 1990. Cyflwynwyd y tâl hwn (ynghyd â'r Tâl Cymunedol) yn lle'r system flaenorol o godi trethi.

Mae'r symiau a gesglir gan bob Awdurdod yng Nghymru yn cael eu casglu ynghyd mewn cronfa a'u hailddosbarthu i gynghorau lleol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r arian o'r gronfa hon, yn ogystal ag unrhyw arian arall y mae'r Cyngor yn ei dderbyn, yn helpu i dalu am y gwasanaethau a ddarperir yn eich ardal.

Mae Awdurdodau Lleol yn derbyn arian o'r ffynonellau canlynol:

  • Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Grant Cynnal y Dreth.
  • Trigolion Lleol - Treth y Cyngor.

  • Busnesau Lleol - Trethi Annomestig (a ailddosberthir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru).


Tudalen wedi ei diweddaru ar 26/11/2008