Mae'r rheoliadau Trethi Annomestig yn caniatau i Awdurdodau ostwng bil trethi busnesau sy'n dioddef caledi. Nid yw'r rheoliadau yn nodi'r meini prawf y mae'n rhaid eu diwallu, ond yn hytrach yr Awdurdodau eu hunain sy'n penderfynu yn ôl eu hewyllys.
Fodd bynnag, cydnabyddir ar y cyfan y gall yr Awdurdod ganiatau gostyngiad os yw wedi'i foddloni:
- Y byddai'r trethdalwr yn dioddef caledi pe na bai'r Awdurdod yn caniatau'r gostyngiad; a'i.
- Bod yn rhesymol bod yr Awdurdod yn caniatau'r gostyngiad o ystyried budd Trethdalwyr y Cyngor.
Wrth benderfynu a yw'n briodol i ganiatau gostyngiad neu beidio, gall yr Awdurdod ystyried ffactorau nad ydynt yn rhai ariannol yng ngwir ystyr y gair. Yn ogystal, gall amwynderau lleol neu bosibiliadau cyflogaeth fod yn berthnasol wrth wneud y penderfyniad.
Caiff pob cais a wneir i'r Awdurdod eu hystyried yn ôl eu haeddiant gan gymryd yr holl ffactorau perthnasol i ystyriaeth sy'n ymwneud â'r busnes a'r ardal yn gyffredinol.
Os dymunwch wneud cais am ostyngiad caledi, argraffwch y ffurflen gais, llenwch bob adran a'i dychwelyd at:-
Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyfarwyddwr Adnoddau
Uned Trethi Annomestig
3 Heol Spilman
Caerfyrddin
SA31 3BT