English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Strategaeth Gaffael Gorfforaethol 

Dyma ail Strategaeth Gaffael Gorfforaethol yr Awdurdod. Mae wedi cael ei datblygu i adeiladu ar yr hyn a wnaed yn sgil y Strategaeth Gyntaf ac i lywio gweithgareddau caffael yr Awdurdod tan fis Mawrth 2010.

Mae’n cydnabod mor bwysig yw caffael o ran sicrhau’r gwerth gorau am arian ar gyfer yr Awdurdod, ac mae’n dangos sut y bydd y swyddogaeth gaffael yn helpu i gyflawni amcanion strategol, themâu a gwerthoedd allweddol y Cyngor (fel yn y Strategaeth Gorfforaethol a’r Strategaeth Gymunedol). Hefyd, mae’r Strategaeth yn gysylltiedig â mentrau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan gynnwys “Creu’r Cysylltiadau” a “Gwell Gwasanaethau i Gymru” (Hydref 2004).

Bydd yr Heriau Allweddol yn cael eu hadolygu’n rheolaidd i wneud yn siŵr bod yr Awdurdod yn gwella’i weithgareddau caffael yn barhaus, gan gymryd i ystyriaeth unrhyw newidiadau i’r ddeddfwriaeth, yr holl gymhellion cenedlaethol perthnasol, a safbwyntiau’r holl randdeiliaid i sicrhau bod y gwasanaethau’n cael eu darparu’n effeithlon.
                    
Diben y Strategaeth hon yw hyrwyddo dulliau mwy effeithiol o gaffael yn yr Awdurdod. Mae’n pennu fframwaith lle gall y swyddogaeth gaffael esblygu ac mae’n cynnwys targedau penodol a gwirioneddol ar gyfer gwella.

 


Tudalen wedi ei diweddaru ar 08/6/2009