Ymrwymiad Cyngor Sir Caerfyrddin i Fentrau Lleol Bach a Chanolig eu Maint
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Ymrwymiad Cyngor Sir Caerfyrddin i Fentrau Lleol Bach a Chanolig eu Maint 

Mae’r Cyngor yn ymrwymedig i ‘Agor Drysau’, y Siarter ar gyfer Caffael sy'n Gyfeillgar i Fusnesau Bach a Chanolig eu Maint. Mae’n cydnabod y cyfraniad pwysig a wneir gan fusnesau bach a chanolig eu maint, Cyrff Trydydd Sector a grwpiau lleiafrifol eraill ac mae’n eu gwerthfawrogi. Mae wedi mabwysiadu rhaglen weithredu i ymateb i gaffael mewn dull cyson ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae’r UCC yn cydnabod y pwysigrwydd o gael mynediad I sylfaen amrywiol o gyflenwyr o safon, ac mae’n sylweddoli mai’r cyflenwyr a’r darpar gyflenwyr yw ‘bara menyn’ pob proses gaffael. Heb gyflenwyr addas ni fyddai modd masnachu’n effeithiol ac yn effeithlon.

Mae’r UCC yn sylweddoli mai pobl sy’n gwneud busnes – siarad â nhw, gwrando arnyn nhw, a’u deall. Y cysylltiadau busnes hyn sy’n sicrhau fod contractau’n gweithio.

Mae’r UCC yn awyddus iawn i feithrin perthynas weithgar gyda chyflenwyr er mwyn cael gwybodaeth a dealltwriaeth am y cynnyrch a’r gwasanaethau sydd ar gael i ni ac i gael adborth gwerthfawr ac awgrym am bethau sydd, ym marn darpar gyflenwyr, yn rhwystr i fasnach.

Mae’r Cyngor yn ymrwymedig i weithredu ar yr adborth y mae’n ei gael ermwyn gwella’i wasanaethau a helpu i roi maes chwarae teg a gwastad ar gyfer ei holl ddarpar gyflenwyr.

Nodau ac Amcanion

• Bod yn flaenweithgar o ran trefnu amryfal fentrau i ymgysylltu â’r farchnad ee Fesiynau Cymorthfeydd Caffael, Digwyddiadau Cwrdd â’r Prynwyr, Fforymau Darparwyr, Gweithdai Sut i Dendro.

• Hyrwyddo a chyhoeddi amryfal sesiynau, gweithdai a digwyddiadau ar wefan yr Awdurdod a safleoedd perthnasol eraill.

• Gwella ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd contractio sydd ar y gweill a chyhoeddi gwybodaeth am sut y mae’r Awdurdod yn caffael ei nwyddau, gwaith a gwasanaethau.

• Rhoi cyfle i bob darpar gyflenwr fasnachu am fusnes y Cyngor a medru cystadlu ar faes chwarae gwastad.

• Pennu pwynt cyswllt cyntaf a dolen gyswllt i fusnesau ar gyfer materion caffael.


 


Tudalen wedi ei diweddaru ar 08/6/2009