Busnes
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Busnes 

Ein nod...

...creu Sir Gâr ffyniannus i bawb yw ein nod. I wneud hyn byddwn yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau allweddol sef creu swyddi, gwneud busnesau yn fwy cynhyrchiol, lleihau anweithgarwch economaidd a mynd i'r afael â mudo ymysg pobl ifanc.

Mae Sir Gaerfyrddin yn cynnig cyfleoedd datblygu enfawr i ddatblygwyr a busnesau sy'n dymuno manteisio ar drefn grantiau ffafriol dros ben sy'n cefnogi economi sy'n gwybod sut i weithio'n galed am ei harian.

Ein hamcan...

...darparu ar gyfer eich holl anghenion buddsoddi yw ein nod.

I wneud hyn, rydym yn cydweithio â llawer o gyrff yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat er mwyn cael y cymorth sydd ei angen arnoch ym mhob maes. Ceisiwn hyrwyddo datblygiad parhaus yr amgylchedd masnach a busnes yn Sir Gaerfyrddin, sy'n sir ffyniannus, a sicrhau fod y sir yn parhau i fod yn gystadleuol ac yn un o'r mannau gorau ar gyfer mewnfuddsoddi.

Mae'r prif feini prawf ar gyfer llwyddiant yn eu lle:

  • y lefel uchaf o gyllid Ewropeaidd
  • gweithlu medrus a hyblyg
  • safleoedd datblygu strategol ar gael ar hyd traffordd yr M4
  • proses sy'n hwyluso gwneud penderfyniadau'n gyflym drwy gyfrwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru
  • adnoddau Llywodraeth Cymru
  • agwedd ragweithiol

Mae Sir Gaerfyrddin yn barod am fusnes - eich busnes chi.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso ichi gysylltu ag ni drwy ffonio 01554 748800 neu drwy ein e-bostio ni yn uniongyrchol.


Holiadur Caffael

A wyddech chi fod dros 100 o sefydliadau sector cyhoeddus annibynnol yng Nghymru sy'n gwario dros £4 biliwn bob blwyddyn yn caffael nwyddau a gwasanaethau? Credwch neu beidio, mae 49% o'r cyfanswm gwariant hwn yn cael ei ennill gan fusnesau yng Nghymru. Rydym ni eisiau helpu cwmnïau yn Sir Gaerfyrddin i dendro ar gyfer y contractau hyn ond yn gyntaf mae angen inni wybod pa faterion sy'n eich poeni.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cael mynediad i sylfaen amrywiol o gyflenwyr o safon uchel ac yn cydnabod nad oes unrhyw ffordd y gallwn ni gynnal hyn heb gydnabod pobl broffesiynol fel chi.

Byddem yn ddiolchgar petai modd ichi ateb ychydig o gwestiynau er mwyn inni gasglu gwybodaeth ynghylch gweithgaredd tendro presennol ac yn amlinellu unrhyw rwystrau y mae cwmnïau Sir Gaerfyrddin yn eu cael.

Rydym yn gwerthfawrogi adborth gonest ac yn sicrhau na fydd eich ymatebion yn rhagfarnu unrhyw fusnes cyfredol neu fusnes yn y dyfodol gyda Chyngor Sir Caerfyrddin mewn unrhyw ffordd. Rydym am ei gwneud mor hawdd ag sy'n bosibl i chi gysylltu â ni ac rydym wedi creu ffurflen electronig er mwyn ichi allu rhoi'ch barn yn hawdd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso ichi gysylltu ag Andrea Traylor drwy ffonio 01269 590271 neu drwy ein e-bostio ni yn uniongyrchol.


Tudalen wedi ei diweddaru ar 10/9/2012