Rhwydwaith o ganolfannau arloesi yw Technium sy'n meithrin busnesau technoleg ifanc ac yn darparu gwybodaeth, cymorth a chyfleusterau perthnasol i'w helpu nhw i lwyddo. Nod Technium yw darparu cymorth dwys i fusnesau technoleg sydd ar y gweill yng Nghymru a chynnig ateb 'glanio'n ysgafn' i fusnesau technoleg sy'n bwriadu ymuno â'r farchnad yng Nghymru neu'r Deyrnas Unedig.
Mae Technium yn darparu:-
- Gofod deori o safon lle gellir cyrchu'r rhwydwaith ffôn a’r band eang masnachol.
- Defnydd o ystafelloedd cyfarfodydd, ystafelloedd cynadleddau a gwasanaethau derbynfa.
- Cymorth busnes cyffredinol ac arbenigol sy'n cael ei ddarparu drwy'r sector cyhoeddus a'r sector preifat.
- Cysylltiadau â’r byd academaidd i hwyluso'r cymorth ar gyfer gwaith Ymchwilio a Datblygu, dylunio a datblygu cynnyrch/proses newydd.
- Defnydd o labordai ac offer technegol.
Mae amryw o opsiynau ar gael i gwmnïau sydd â diddordeb mewn defnyddio Technium. Mae'r rhain yn cynnwys rhentu uned benodol, rhentu lle i ddesg mewn uned a rennir, neu fynd yn rhith-denant drwy raglen Aelodaeth Gyswllt Technium.
Partneriaeth unigryw yw Technium rhwng yr Adran Menter, Arloesi a Rhwydweithiau, Prifysgol Cymru a'r sector preifat. Cefnogir y rhaglen gan arian Amcan 1 yr Undeb Ewropeaidd.
Mae De-orllewin Cymru yn gartref i 6 chanolfan Technium, ac mae un o'r rhain (Technium Peirianneg Perfformiad) yn Sir Gaerfyrddin.