English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Cymorth i gael Gweithlu 

Recriwtio a Datblygu

Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cydgysylltu'r amrywiaeth lawn o wasanaethau sydd ar gael gan fudiadau sy'n cynnig cymorth o ran recriwtio, hyfforddi a datblygu staff i gwmnïau sy'n dod i mewn i'r ardal.  Bydd y rhain yn cynnwys  rhwydwaith y Canolfannau Gwaith, Canolfan Hyfforddiant a Thechnoleg Sir Gaerfyrddin, Llywodraeth Cynulliad Cymru a nifer o asiantaethau recriwtio. 

Darperir data manwl o'r medrau sydd ar gael yn y lleoliadau dan sylw a gellir datblygu pecynnau hyfforddi sydd wedi'u teilwra i gwrdd â'ch gofynion chi. 

Mae rhwydwaith y Canolfannau Gwaith yn Ne Cymru yn deall y problemau o ran adnoddau dynol sy'n gysylltiedig â sefydlu prosiect newydd ac mae'n cynnig  arbenigrwydd a phrofiad profedig i gynorthwyo eich tîm rheoli yn ystod y cyfnod hwn a allai fod yn anodd.  

Fel cyflogwr newydd byddech yn derbyn cymorth sylweddol i fodloni eich anghenion recriwtio gan gynnwys:

  • Datblygu strategaeth recriwtio briodol.
  • Cyngor ynghylch hysbysebu yn y cyfryngau perthnasol ac ymdrin â'r ymatebion.
  • Sgrinio'r ymgeiswyr a'u gweddu i swyddi priodol.
  • Cyngor ynghylch cyflog.
  • Darpariaeth cyfleusterau cyfweliad.

Tudalen wedi ei diweddaru ar 16/9/2008